1
Luc 21:36
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Gwyliwch a gweddïwch yn gyson, felly, er mwyn cael bod yn ddigon cryf i ddianc rhag popeth sydd i ddigwydd, a sefyll ym mhresenoldeb Mab y Dyn.”
సరిపోల్చండి
Explore Luc 21:36
2
Luc 21:34
“Byddwch yn wyliadwrus rhag i’ch meddwl gael ei niwlo un amser gan drachwant a meddwdod neu drafferthion y bywyd hwn, neu fe ddaw’r Dydd hwnnw ar eich gwarthaf a’ch cael yn gwbl amharod.
Explore Luc 21:34
3
Luc 21:19
Drwy sefyll yn gadarn fe sicrhewch y gwir fywyd.
Explore Luc 21:19
4
Luc 21:15
oherwydd rhoddaf ichi gymaint huodledd a doethineb fel na fydd eich holl wrthwynebwyr yn gallu’i wadu na’i wrth-ddweud.
Explore Luc 21:15
5
Luc 21:33
Fe â nef a daear heibio, ond nid â fy ngeiriau i heibio fyth.
Explore Luc 21:33
6
Luc 21:25-27
Bydd arwyddion ar yr haul a’r lleuad a’r sêr, a bydd gofid ymhlith cenhedloedd daear, wedi’u drysu gan ruad tonnau’r môr. Llewyga dynion gan ofn o ddeall beth sydd i ddigwydd i’r byd, oherwydd fe siglir pwerau’r nef. Yna y gwelir Mab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl a chanddo nerth a gogoniant mawr.
Explore Luc 21:25-27
7
Luc 21:17
Cewch eich casáu gan bawb am eich bod yn dwyn f’enw i.
Explore Luc 21:17
8
Luc 21:11
bydd daeargrynfâu mawr, a newyn a heintiau mewn llawer lle; pethau dychrynllyd, ac arwyddion mawr o’r nef.
Explore Luc 21:11
9
Luc 21:9-10
A phan glywch sôn am ryfeloedd a therfysg, peidiwch ag ofni. Rhaid i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf, ond ni ddaw y diwedd ar unwaith.” Yna y dywedodd wrthyn nhw, “Fe gwyd cenedl mewn rhyfel yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas
Explore Luc 21:9-10
10
Luc 21:25-26
Bydd arwyddion ar yr haul a’r lleuad a’r sêr, a bydd gofid ymhlith cenhedloedd daear, wedi’u drysu gan ruad tonnau’r môr. Llewyga dynion gan ofn o ddeall beth sydd i ddigwydd i’r byd, oherwydd fe siglir pwerau’r nef.
Explore Luc 21:25-26
11
Luc 21:10
Yna y dywedodd wrthyn nhw, “Fe gwyd cenedl mewn rhyfel yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas
Explore Luc 21:10
12
Luc 21:8
“Cymerwch ofal rhag i neb eich twyllo chi,” oedd yr ateb, “oherwydd daw llawer yn fy enw, gan ddweud, ‘Myfi yw,’ neu ‘Mae’r amser yn agos.’ Na wnewch ddim â nhw.
Explore Luc 21:8
హోమ్
బైబిల్
ప్రణాళికలు
వీడియోలు