1
Genesis 17:1
beibl.net 2015, 2024
bnet
Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau.
Порівняти
Дослідити Genesis 17:1
2
Genesis 17:5
A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
Дослідити Genesis 17:5
3
Genesis 17:7
Bydda i’n cadarnhau fy ymrwymiad i ti ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i’n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di.
Дослідити Genesis 17:7
4
Genesis 17:4
“Dyma’r ymrwymiad dw i’n ei wneud i ti: byddi di’n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
Дослідити Genesis 17:4
5
Genesis 17:19
“Na,” meddai Duw, “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i’w alw yn Isaac. Bydda i’n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi’i wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i’w ddisgynyddion ar ei ôl.
Дослідити Genesis 17:19
6
Genesis 17:8
A dw i’n mynd i roi’r wlad lle rwyt ti’n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
Дослідити Genesis 17:8
7
Genesis 17:17
Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna chwerthin iddo’i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy’n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy’n naw deg oed, yn gallu cael babi?”
Дослідити Genesis 17:17
8
Genesis 17:15
Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Ti ddim i’w galw hi’n Sarai o hyn ymlaen, ond Sara.
Дослідити Genesis 17:15
9
Genesis 17:11
Byddwch yn torri’r blaengroen fel arwydd o’r ymrwymiad rhyngon ni.
Дослідити Genesis 17:11
10
Genesis 17:21
Ond gydag Isaac y bydda i’n cadarnhau’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma’r flwyddyn nesa.”
Дослідити Genesis 17:21
11
Genesis 17:12-13
I lawr y cenedlaethau bydd rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae’n wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy’n perthyn i’r teulu, a’ch caethweision a’u plant. Bydd rhaid i’r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a’u plant nhw, fynd drwy ddefod enwaediad hefyd. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i’w weld ar y corff am byth.
Дослідити Genesis 17:12-13
Головна
Біблія
Плани
Відео