Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
1Yna fe gymerodd Peilat yr Iesu, a gorchymyn ei chwipio; 2plethodd y milwyr goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben, a rhoi mantell borffor amdano. 3Dro ar ôl tro roedden nhw’n dod ato a gweiddi, “Henffych i ti, Frenin yr Iddewon!” a’i daro ar ei wyneb.
4Daeth Peilat allan unwaith eto, ac meddai wrth y dyrfa, “Edrychwch, rwyf yn dod ag ef allan i chi, er mwyn i chi wybod nad wyf fi yn cael yr un achos yn ei erbyn.”
5Fe ddaeth yr Iesu allan, yn gwisgo’r goron ddrain a’r fantell borffor.
“Wel! dyma’r dyn!” meddai Peilat.
6Pan welodd y prif offeiriaid a’r gweision ef, dyma nhw’n gweiddi, “Croeshoeliwch, croeshoeliwch ef.”
“Cymerwch chi ef,” meddai Peilat, “a chroeshoeliwch ef, oherwydd nid wyf yn cael achos yn ei erbyn.”
7Atebodd yr Iddewon, “Mae gyda ni Gyfraith, ac yn ôl y Gyfraith honno fe ddylai farw, gan iddo hawlio mai ef yw Mab Duw.”
8Pan glywodd Peilat hyn, roedd yn ofnus iawn. 9Aeth yn ôl i’w blas a gofyn i’r Iesu, “O ble daethost ti?”
Ond ni roddodd yr Iesu ateb.
10“Wyt ti’n gwrthod siarad â mi?” meddai Peilat wrtho. “Wyt ti ddim yn gwybod fod gennyf fi awdurdod i’th ollwng yn rhydd, neu i’th groeshoelio?”
11“Fyddai gennyt ti yr un awdurdod drosof fi,” atebodd yr Iesu, “oni bai i ti ei gael oddi wrth Dduw: mae’r sawl a’m trosglwyddodd i ti yn llawer mwy euog.”
12O’r foment honno roedd Peilat yn dra awyddus i’w ollwng yn rhydd, ond daliai’r Iddewon i weiddi, “Os gollyngi di hwn yn rhydd, dwyt ti ddim yn gyfaill i Gesar: mae unrhyw un sy’n galw’i hun yn frenin yn herio Cesar.”
13Pan glywodd Peilat hyn, daeth â’r Iesu allan, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle a elwir ‘Palmant’ (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha). 14Roedd hyn tua hanner dydd ar y diwrnod cyn y Pasg. Meddai Peilat wrth yr Iddewon, “Edrychwch, dyma’ch Brenin!”
15Dyma nhw’n bloeddio, “I ffwrdd ag ef. I ffwrdd ag ef. Croeshoeliwch ef.”
“Croeshoelio’ch Brenin?” gofynnodd Peilat.
“Does gyda ni yr un brenin ond Cesar,” meddai’r prif offeiriaid. 16Ac yna trosglwyddwyd yr Iesu iddyn nhw i’w groeshoelio.
Y Croeshoelio
Dyma nhw felly yn cymryd yr Iesu. 17A chan gario ei groes ei hun aeth allan i ‘Le y Benglog’, fel y’i gelwir. (Neu yn iaith yr Iddewon, ‘Golgotha’.) 18Yno fe’i croeshoeliwyd, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a’r Iesu yn y canol.
19Yna ysgrifennodd Peilat deitl i’w roi ar y groes. Dyma’r geiriau arno: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 20Darllenodd llawer o’r Iddewon y teitl hwn, oherwydd bod y lle y croeshoeliwyd yr Iesu yn agos i’r ddinas. Roedd y teitl wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, Lladin a Groeg. 21Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Peilat, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond ei fod ef yn dweud, ‘Fi yw Brenin yr Iddewon’.”
22Atebodd Peilat, “Fe gaiff yr hyn a ysgrifennais aros fel y mae.”
23Wedi hoelio’r Iesu ar y pren, fe gymerodd y milwyr ei ddillad, a’u rhannu rhwng pedwar, rhan i bob milwr, a’r fantell hefyd. Roedd hon yn ddiwnïad, wedi ei gweu drwyddi yn un darn o’r pen i lawr. 24Felly medden nhw wrth ei gilydd, “Rhaid i ni beidio â thorri hon, gadewch i ni daflu dis amdani.”
Felly fe ddaeth yr Ysgrythur yn wir,
‘Fe ranason nhw fy nillad
A thaflu dis am fy mantell.’
A dyma a wnaeth y milwyr.
25Gerllaw y groes safai mam yr Iesu, gyda’i chwaer, Mair, gwraig Cleopas, a Mair o Fagdala. 26Gwelodd yr Iesu ei fam a’r disgybl a garai yn sefyll yno, ac meddai wrthi:
“Wraig, dacw dy fab di.” 27Ac yna dywedodd wrth y disgybl, “Dacw dy fam.”
Ac o’r foment honno cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
28Ac ar ôl hyn ac yntau yn gwybod yn awr fod popeth wedi dod i ben, fe ddywedodd yr Iesu, er mwyn i’r Ysgrythur ddod yn wir, “Mae syched arnaf.”
29Roedd dysgl yn llawn o win sur gerllaw; felly dyma godi ysbwng llawn o’r gwin sur ar hysop at ei wefusau. 30Wedi derbyn y gwin, meddai, “Mae’r cyfan yn awr wedi ei gyflawni.” Gwyrodd ei ben a bu farw.
31Gan ei bod yn ddydd cyn y Pasg, dyma’r Iddewon yn gofyn i Beilat am gael torri eu coesau a thynnu’r cyrff i lawr. Roedden nhw yn awyddus i’r cyrff beidio ag aros ar y groes ar y Dydd Gorffwys, gan fod y dydd hwn yn un arbennig iawn. 32Felly dyna’r milwyr yn dod a thorri coesau’r dyn cyntaf a rhai’r llall, a groeshoeliwyd gyda’r Iesu, 33ond pan ddaethon nhw at yr Iesu, fe welson ei fod ef wedi marw’n barod, felly thorason nhw mo’i goesau ef. 34Ond fe drywanodd un o’r milwyr ystlys yr Iesu â phicell, ac ar unwaith fe lifodd allan waed a dŵr. 35Sicrheir hyn gan un a oedd yn llygad-dyst, ac fe ellir dibynnu ar ei dystiolaeth. Fe ŵyr ei fod yn dweud y gwir, er mwyn i chi hefyd gredu. 36Digwyddodd hyn er mwyn i’r Ysgrythur ddod yn wir.
‘Ni chaiff asgwrn ohono ei dorri.’
37Ac fe ddywed rhan arall o’r Ysgrythur,
‘Mi fyddan nhw’n syllu ar y sawl a drywanwyd ganddyn nhw.’
Claddu’r Iesu
38Ar ôl hyn fe ofynnodd Joseff o Arimathea i Beilat a gâi ef gymryd corff yr Iesu i ffwrdd. Roedd ef yn ddisgybl i’r Iesu, ond roedd arno ormod o ofn yr Iddewon i ddangos hynny’n gyhoeddus. Rhoddodd Peilat ganiatâd; felly fe ddaeth a dwyn ei gorff i ffwrdd. 39Daeth Nicodemus hefyd, hwnnw a aeth yn gyntaf at yr Iesu pan oedd hi’n nos, a chanddo gymysgedd o fyrr a sudd pren alwys, tua chan pwys. 40Felly dyma nhw’n cymryd corff yr Iesu, a’i roddi mewn llieiniau gyda’r peraroglau yn ôl arfer yr Iddewon wrth gladdu. 41Roedd gardd yn y lle cafodd yr Iesu ei groeshoelio, ac yn yr ardd fedd newydd, heb erioed ei ddefnyddio. 42Gan ei fod yn ddiwrnod cyn Dydd Gorffwys yr Iddewon, a’r bedd yn gyfleus, rhoddwyd yr Iesu ynddo.

Dewis Presennol:

Ioan 19: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda