Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Mathew 5:27-30
Godineb
Unwaith eto yma mae’n rhaid i ni weld yr ysbryd sydd y tu ôl i eiriau Iesu. Mae’n son am y seithfed o’r deg gorchymyn. Mae’r gair godineb fel arfer yn golygu person priod yn cael rhyw hefo rhywun ar wahân i’w gŵr neu ei wraig. Mae rhyw yn rhodd gan Dduw i ddynion a merched sydd yn briod â’i gilydd, yn ffordd i ddangos cariad, undod priodas, i brofi mwynhad ac wrth gwrs i gael plant. Ddylai Cristion di-briod ddim cael rhyw.
Yn y fan yma eto mae Iesu yn dwysáu'r gorchymyn. Dydi peidio â gwneud y weithred o odinebu ddim digon - mae’n rhaid delio hefo’r sefyllfaoedd a’r teimladau hynny sy’n gallu arwain at odineb. Ddylai dynion ddim edrych ar ferched a ddylai merched ddim edrych ar ddynion gyda chwant i gael rhyw hefo nhw. Mae hyn yn beth andros o anodd i ddelio hefo fo yn ein cyfnod ni, lle mae lluniau, ffilmiau a fideos yn llawn rhyw a delweddau awgrymog sy’n gallu tanio chwant Cristnogion mewn ffordd anaddas. Ni ddylai Cristion ddarllen nac edrych ar unrhyw fath o bornograffi gan fod hyn yn amlwg yn cael ei gynnwys yn beth mae Iesu yn ei ddweud yma.
Mae’r mater yma yn frwydr i lot o Gristnogion, a dŷn ni’n swil iawn i drafod rhyw gyda’n gilydd. Dylai Cristion ymdrechu i gadw ei feddwl yn lân ac i osgoi pethau sydd yn tanio ei chwant. Dylen ni ddisgyblu ein nwydau a gwrthod caniatáu iddyn nhw ein rheoli ni. Iesu sydd i’n ein rheoli ni nawr, a dim arall. Edrych ar Iago 1:14,15 a 1 Ioan 2:15-17, sy’n taflu goleuni ar hyn.
Wrth sôn am gael gwared â darnau o’r corff doedd Iesu ddim yn golygu hynny yn llythrennol. Dangos mor ddifrifol ydy’r peth mae o. Dweud mae o, os oes rhywbeth yn dy demtio ac yn gwneud i ti syrthio fod rhaid gwneud popeth posib i gael gwared â’r pethau hynny o dy fywyd.
Beth amdanat ti? Oes yna rywbeth ynglŷn â rhyw sy’n dy boeni? Trïa rannu hefo Cristion hŷn rwyt ti yn ei drystio.
Alun Tudur

Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.