Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Mathew 5:21-26
Wyt ti’n llofrudd?
Waw! Mae’r adnodau yma yn dangos bod safonau Duw mor uchel â’i fod mewn gwirionedd yn gofyn am berffeithrwydd. Wrth eu darllen dŷn ni’n sylweddoli na allwn ni gyrraedd safonau Duw, a’n bod angen Iesu fel Gwaredwr. Iesu, sy’n delio hefo’n methiant ni, yn rhoi bywyd newydd i ni ac yna nerth yr Ysbryd i’n helpu i fyw iddo fo.
Yma mae Iesu yn cymryd y chweched o’r deg gorchymyn sef, “Paid llofruddio” - Exodus 20:13. Mae’n rong i Gristion gymryd bywyd person arall.
Dros y blynyddoedd mae rhai Cristnogion wedi dadlau ei bod yn iawn lladd mewn rhai sefyllfaoedd, e.e. pan mae llywodraeth yn anfon byddin i frwydr. Ond be mae Iesu’n ei wneud yma ydi dwysau'r disgwyliad. Mae’n dweud os wyt ti yn galw person yn idiot neu yn ddiawl dwl bod perygl i ti ddioddef yn nhân uffern! Ti ddim i fod i addoli Duw heb ddelio yn gyntaf hefo ffrae wyt ti di gael hefo rhywun arall. Mae Iesu yn ein dysgu nid yn unig i beidio llofruddio ond hefyd i ddelio’n syth hefo beth sy’n creu casineb a gwrthdaro yn y lle cyntaf. Dechrau’r broses sy’n arwain at lofruddiaeth ydi teimladau o gasineb, o ddial, a’r gwylltineb sydd yng nghalon rhywun. Fel y dywedodd Iesu, mae pob drwg yn dechrau yn y galon - Mathew 15:19. Felly mae’r drwg sy’n arwain rhywun i lofruddio yn ein calonnau a’n meddyliau. Mae Iesu eisiau i ni weld ein bod yn euog, ac angen maddeuant. Yn nerth yr Ysbryd mae am i ni ddechrau delio hefo’r tueddiadau drwg yna sydd yn ein meddyliau.
Beth amdanat ti? Wyt ti’n cadw teimladau o gasineb yn dy galon at ryw berson? Os wyt ti, edrych eto ar beth mae Iesu yn ei ofyn i ti ei wneud am y peth.
Alun Tudur

Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.