Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 30 O 30

Luc 1:46-56

Bod yn ddiolchgar

Pryd oedd y tro dwetha i ti ddiolch i Dduw am rywbeth o waelod dy galon? Dw i ddim yn golygu dweud y geiriau “Diolch byth!” ar ôl i ryw argyfwng basio heibio, ond cael dy hun wedi dy wefreiddio’n llwyr am fod Duw yn dy garu di gymaint.

Mae’n beth da i ni oedi weithiau dim ond i feddwl mor dda ydy Duw. Meddwl amdano a’r cwbl mae wedi ei wneud droson ni, a chael ein hunain yn methu dweud dim byd ond “Diolch, Arglwydd.” Mae meddyliau diolchgar yn ein helpu i fyw bywydau diolchgar.
Yn y darlleniad heddiw mae Mair wedi ei gwefreiddio’n llwyr. Mae fel petai rhyw wefr yn llifo drwy ei chorff. Mae hi’n addoli Duw am y fraint a’r fendith mae hi newydd ei dderbyn. Ond dydy hi ddim yn meddwl amdani hi ei hun yn unig. Mae hi’n gweld fod beth sydd wedi digwydd iddi yn rhan o gynllun Duw. Mae hi’n sylweddoli y bydd y byd yn le gwell i fyw ynddo o ganlyniad i hyn. Mae hi’n meddwl am yr holl fendithion mae Duw eisiau eu tywallt ar ei fyd. Mae ei chalon hi’n llawn diolch. Mae hi fel petai hi ar fin byrstio, a dydy geiriau ddim yn ddigon i fynegi beth mae hi’n ei deimlo.

Mae’n wir fod beth ddigwyddodd i Mair yn gwbl unigryw, ond does dim rhaid i rywbeth mawr, anghyffredin ddigwydd i ni i’n gwneud ni’n ddiolchgar. Mae yna beryg weithiau i ni gymryd yn ganiataol yr holl fendithion sy’n dod i ni o ddydd i ddydd. Beth am i ti oedi am funud a meddwl am yr holl bethau da yn dy fywyd y dylet ti ddiolch amdanyn nhw.
Gweddïa’r weddi yma: Arglwydd, diolch i ti am fy mywyd. Diolch am dy gariad anhygoel tuag ata i, ac am fy achub i. Ti ydy fy Nuw i. Rwyt ti’n ffantastig! Amen.

Arfon Jones, beibl.net

Gwna’n siwr dy fod yn cofrestru i ddilyn Blas ar y Beibl 2!

Ysgrythur

Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.