Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 27 O 30

Darlleniad: Luc 8:1-3; 24:1-11

Parchu gwragedd

Un o ffeithiau erchyll ein byd â’n cymdeithas ydy fod merched a gwragedd mor aml yn cael eu cam-drin gan ddynion. Doedd Iesu ddim yn gwneud hynny. Dro ar ôl tro yn yr efengylau rydyn ni’n gweld y parch oedd gan Iesu at ferched. Mewn cymdeithas batriarchaidd, gwelwn Iesu yn anrhydeddu merched, yn iacháu, yn amddiffyn, yn gofalu amdanynt a’u parchu.

Yn ein darlleniad cyntaf heddiw, gwelwn mai nid dim ond dynion oedd yn teithio o gwmpas hefo Iesu - roedd yna nifer o wragedd hefyd. Gwragedd fel Mair Magdalen oedd wedi ei hiacháu gan Iesu. Falle nad ydyn ni’n deall yn iawn y cyfeiriad at saith o gythreuliaid yn dod allan ohoni, ond gwyddom fod dablo gyda’r ocwlt yn gyffredin yn Israel yn y ganrif gyntaf. Falle fod Mair wedi bod yn edrych am ryw brofiadau ysbrydol dwfn, ond bod y cwbl wedi troi yn hunllef yn ei bywyd, a’i bod yn cael ei llethu gan bethau fel ofn, dryswch ac unigrwydd.

Roedd bwrw allan gythreuliaid yn rhan amlwg o weinidogaeth Iesu, a dyna wnaeth o i Mair Magdalen. Iachaodd hi, a’i rhyddhau o’r tywyllwch a’r dryswch roedd hi ynddo. Gwelodd Mair y goleuni yn Iesu, a phrofodd ei rym a’i bersonoliaeth yn llenwi ei chalon â gobaith. Rhoddodd ei hun yn llwyr i’w wasanaethu.

Yna yn ein hail ddarlleniad gwelwn y gwragedd eto yn barod i wneud popeth allen nhw i ofalu am gorff Iesu. Ond wnaeth pethau ddim troi allan fel roedden nhw’n disgwyl. Roedd y bedd yn wag a’r corff wedi mynd. A nhw, y gwragedd, gafodd y fraint o fod y tystion cyntaf i’r ffaith fod Iesu wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae hynny’n rhyfeddol! Meddylia! Yn y cyfnod hwnnw doedd tystiolaeth gwraig ddim yn dderbyniol mewn llys barn, ond yma y gwragedd gafodd rannu’r newyddion da hefo’r disgyblion. Ia, y gwragedd oedd y rhai cyntaf i gyhoeddi’r efengyl fod Iesu yn fyw.

Tybed gei di gyfle heddiw i wneud yr un peth?

Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.