Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 23 O 30

Darlleniad: Mathew 5: 17 - 20

Y Gyfraith a’r Proffwydi

Mae’r paragraff hwn yn ein paratoi ar gyfer y rhan nesaf o’r bregeth ar y mynydd. Yma mae Iesu’n trafod y Gyfraith. Mae’r gair “cyfraith” yn cyfeirio at y rheolau roddodd Duw i Moses ar fynydd Sinai - gw. Exodus 20:1-17 a Deuteronomium 5:1-21. Mae’r pedwar rheol cyntaf o’r Deg Gorchymyn yn cyfeirio at ein perthynas hefo Duw a’r chwech arall at ein perthynas hefo pobl eraill. Mae Iesu’n crynhoi’r rheolau drwy ddweud y dylen ni garu Duw a charu ein cymdogion, sef pobl eraill (Luc 12:29) Rhoddodd Duw y gyfraith fel canllaw i’r ddynoliaeth, ond hefyd er mwyn dangos na all yr un ohonon ni achub ein hunain. Mae arnon ni angen Iesu fel Gwaredwr. Roedd yna gyfreithiau oedd yn dangos sut i ymddwyn at eraill a chyfreithiau Seremonïol oedd yn dangos sut i addoli ac aberthu.

Ystyr “proffwydi” ydy popeth ddwedodd Duw trwy broffwydi’r Hen Destament. Yn adnod 17 mae Iesu’n dweud ei fod wedi dod i’r byd nid i ddileu’r gyfraith a’r proffwydi ond yn hytrach i’w cyflawni. Cyflawnodd y Gyfraith trwy fyw yn gwbl berffaith. Cadwodd bob un o gyfreithiau Duw heb dorri’r un ohonyn nhw, ac felly wnaeth o ddim pechu. A chyflawnodd Iesu y Proffwydi hefyd. Roedd y proffwydi wedi dweud lot o bethau am y Meseia, ganrifoedd cyn iddo ddod i’r byd, e.e., ei fod o deulu'r brenin Dafydd, y byddai’n cael ei eni yn wyrthiol, y byddai’n marw dros bechodau’r ddynoliaeth a lot o fanylion eraill. Yn Iesu fe wnaeth pob dim roedd y proffwydi wedi ei ddweud am y Meseia ddod yn wir. (Gw. Rhufeiniaid 8:2-4; Colosiaid 2:16,17; Hebreaid 10:3-12)

Mae Iago yn dweud fod torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd - Iago 2:10. Mae Cyfraith Duw fel cadwyn. Os ydych chi’n torri un ddolen mewn cadwyn, yna mae’r gadwyn gyfan wedi ei thorri. Felly os torrwn un o gyfreithiau Duw yna dŷn ni’n euog o dorri’r cwbl. e.e., os ydyn ni’n dwyn, dŷn ni'r un mor euog â phetaen ni wedi llofruddio, godinebu ac yn y blaen. Felly, y mae pob pechadur mor wael â’i gilydd yng ngolwg Duw ac angen maddeuant trwy Iesu.
Alun Tudur
Diwrnod 22Diwrnod 24

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.