Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 2 O 30

Darlleniad: Jeremeia 1:4-19

Rhy ifanc...?

Mae hi mor hawdd gwneud esgusion o flaen Duw. “Does dim posib ei fod o eisiau fy nefnyddio i! Dwi’n rhy ifanc ... dw i’n underqualified ... dw i ddim yn barod ... neu dw i ddim eisiau”. Be ydi dy esgus di tybed?
Mae Duw yn dweud wrth Jeremeia ei fod o wedi ei benodi i fod yn ‘broffwyd i siarad â gwledydd y byd’ (adn.5), ond mae gan Jeremeia ofn, ac mae’n ymateb yn syth -‘dwi’n rhy ifanc’ (adn.6)! Be mae Jeremeia eisiau felly? Mwy o amser i baratoi cyn rhannu neges Duw? Na – problem Jeremeia oedd fod ganddo ofn pobl (adn.8). Roedd ganddo ofn be fyddai pobl yn ei feddwl ohono, a be fydden nhw’n ddweud amdano, a sut bydden nhw’n ymateb i be roedd Duw yn ddweud. Roedd o hefyd yn amau ei alwad ei hun. Mae o’n methu credu ei fod o’n ddigon da i Dduw ei ddefnyddio - ac felly mae o’n gwneud esgusion. Ond am sicrwydd mae o’n ei gael gan Dduw! Mae Duw nid yn unig yn ei atgoffa mai fo sydd wedi ei ddewis ar gyfer y pwrpas penodol yma (adn.5), mae Duw hefyd yn addo aros gyda Jeremeia a gofalu amdano (adn.8). Beth mwy oedd ei angen?
Doedd Jeremeia ddim yn teimlo’n barod i ddechrau rhannu neges Duw hefo pobl eraill, ond mae Duw yn dweud wrtho am ddechrau HEDDIW (adn. 10). Pwy fedri di son am Iesu Grist wrthyn nhw heddiw? Paid bod ofn na rhoi fo ffwrdd...
Gwilym Jeffs
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net