Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Genesis 27:1-17
Dangos ffafriaeth
Un o’r pethau gwych am y Beibl ydy ei fod yn lyfr mor onest. Mae’n ei dweud hi fel y mae hi, a ddim yn ceisio cuddio beiau yr ‘arwyr’ sydd yn yr hanesion.
Dro ar ôl tro cawn y Beibl yn dweud nad ydy dangos ffafriaeth yn beth da i’w wneud. Ond yma cawn hanes teulu Jacob oedd wedi ei rannu gan ffafriaeth – Esau, yr hynaf o’r ddau efell, oedd ffefryn y tad (Isaac) a Jacob, yr ifancaf, oedd ffefryn y fam (Rebeca) – gw. Genesis 25:28.
Roedd Isaac yn hen ac yn dechrau mynd yn ddall, ac roedd wedi penderfynu bendithio Esau, ei fab hynaf, cyn iddo farw. Roedd ei wraig Rebeca wedi digwydd clywed, ac aeth hi ati ar unwaith gyda’i mab Jacob i dwyllo ei gŵr a gwneud yn siŵr mai ei hoff blentyn hi fyddai’n cael y fendith. Roedd perthynas y teulu yn cael ei aberthu ar allor ffafriaeth, a triciau a chelwydd a thwyll yn cael eu defnyddio i fanipiwleiddio’r sefyllfa.
Mae ffafriaeth bob amser yn beryglus ac yn ddinistriol. Y canlyniad yn hanes Esau a Jacob oedd fod Esau wedi chwerwi a gwylltio, ac yn bwriadu lladd Jacob (Genesis 27:34,41). Mae’n ddiddorol sylwi fod Genesis 25:23 yn dweud fod Duw wedi dweud wrth Rebeca, cyn i’r ddau gael eu geni, mai Jacob fyddai’r cryfaf. Ond roedd Rebeca yma fel petai am wneud gwaith Duw ar ei ran. Mae hynny bob amser yn berygl – meddwl bod rhaid i ni reoli sefyllfaoedd, a bod yn fodlon gwneud unrhyw beth i gael ein ffordd.
Dylen ni bob amser weddio y bydd Duw yn ein cadw ni rhag dangos ffafriaeth, a hefyd rhag ceisio rheoli sefyllfaoedd ein hunain. Mae’n llawer gwell cyflwyno pob sefyllfa i Dduw.
Arfon Jones, beibl.net
Gwna’n siwr dy fod yn cofrestru i ddilyn Blas ar y Beibl 4!

Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net