Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 24 O 30

Darlleniad: Micha 5:5-15

Galwad i drystio Duw

Problem y ddynoliaeth bob amser ydy ei bod yn meddwl y gall sefyll ar ei thraed ei hun, ac nad oes angen Duw arni. Yn adn.5b-6 mae’r proffwyd yn dyfynnu pobl Jwda, sydd mor siwr ohonyn nhw eu hunain. Maen nhw’n meddwl y gallan nhw amddiffyn eu hunain rhag Asyria, a hyd yn oed goncro Asyria! Mae Micha yn dyfynnu’r rhyfelgan yma i droi golygon y bobl at hyder oedd â sail llawer mwy cadarn iddo – trystio Duw.
Yn adn.7-9 mae’n mynd ymlaen i ddarlunio pobl Dduw “ar wasgar yng nghanol y bobloedd”. Mae’n eu disgrifio gyntaf fel gwlith neu gawodydd glaw ar laswellt. Yna mae’n rhoi darlun gwahanol, sef llew yng nghanol anifeiliaid gwylltion neu braidd o ddefaid. Mae’r darlun cyntaf yn ddarlun o fendith, a’r ail yn ddarlun o farn. Mae Duw eisiau bendithio ac achub y byd drwy ei bobl sydd wedi eu gwasgaru yn eu plith. Ond mae presenoldeb pobl Dduw gyda nhw yn rybudd o farn hefyd.
Yna yn adn.10-15 mae Duw yn datgan y bydd yn cael gwared â’r holl bethau mae ei bobl yn eu gwneud sy’n groes i’w ewyllys – eu dibyniaeth ar eu “systemau amddiffyn” (adn.10-11), eu dewino (adn.12) a’u heilun-dduwiau paganaidd (adn.13-14).
Weithiau rydyn ni’n meddwl y gallwn ni sefyll ar ein traed ein hunain, ac yn anghofio fod Duw am i ni ei drystio fo. Gweddia y bydd Duw yn dy ddefnyddio di heddiw fel gwlith sy’n bendithio eraill. A cofia mai fo, nid ni, sydd a’r hawl i ddial (adn.15).
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net