Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 27 O 30

Darlleniad: Micha 6:9-16

Bydd rhaid i Dduw eu cosbi

Yn yr adnodau yma eto mae Duw yn ceryddu pobl gyfoethog Jerwsalem am yr holl anghyfiawnder a’r twyll mae’n ei weld. Mae’n dweud ei fod yn mynd i’w cosbi nhw, ac mae yma restr o drasiediau oedd i ddod.
Mae Micha yn enwi dau o frenhinoedd gwaethaf teyrnas Israel – Omri (886-875 C.C. cf. 1 Brenhinoedd 16:25,26) a’i fab Ahab (875-854 C.C. cf, 1 Brenhinoedd 16:31). Felly mae Duw yn cyhuddo arweinwyr Jerwsalem o ddilyn polisïau pwdr brenhinoedd gwaethaf teyrnas y gogledd, ac mae’n dweud mai’r canlyniad fyddai dinistr. Y peth i’w gofio yma oedd fod cyfnod Omri ac Ahab fel brenhinoedd yn gyfnod o lwyddiant economaidd a chryfder gwleidyddol, ond doedd hynny ddim yn golygu eu bod yn plesio Duw. A’r un modd gydag arweinwyr Jerwsalem yn nyddiau Micha. Doedd eu llwyddiant economaidd ddim yn arwydd o fendith Duw! I’r gwrthwyneb, roedd y bobl hunan-hyderus yma (gw. 5:5-6) yn mynd i fod yn destun sbort i eraill.
Dydy llwyddiant economaidd ddim bob amser yn arwydd o fendith Duw. Nid faint o arian sydd gynnon ni ydy’r cwestiwn pwysig, ond beth rydyn ni’n ei wneud â’n harian. Yn wir mae Iesu yn rhybuddio pobl y gallai arian gymryd lle Duw yn ein bywydau (Mathew 6:24). Dau beth sy’n plesio Duw ydy pan mae ei bobl yn hael ac yn rhannu gydag eraill.
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net