Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 28 O 30

Darlleniad: Micha 7:1-7

Duw ydy’n hunig obaith

Mae disgrifiad Micha o’r gymdeithas yn ddarlun hynod anobeithiol. Mae’n disgrifio ei hun fel un o’r bobl dlawd sy’n lloffa ar ôl y cynhaeaf, ond yn methu dod o hyd i unrhyw ffrwyth. Roedd Duw wedi gorchymyn i’r ffermwyr adael peth o’r cnwd yn y cae i bobl dlawd allu ei gasglu (Lefiticus 23:22). Ond doedd neb yn gwneud hyn – doedd neb caredig a hael ar ôl yn y wlad.
Yna mae’n mynd ymlaen i son am y ffordd roedd pobl yn twyllo eu gilydd, am farnwyr yn derbyn breib ac am bob math o anonestrwydd. Doedd hyd yn oed ffrindiau a theuluoedd ddim yn gallu trystio ei gilydd.
Felly roedd Micha yn hollol ddigalon. Ond yn ei ddigalondid mae’n troi at unig ffynhonell gobaith – Duw ei hun. Mae’n gwybod y bydd Duw yn gwrando arno.
Sut fydden ni’n disgrifio’n cymdeithas ni? Mae’n cymdeithas ni hefyd yn llawn twyll a thristwch. Cymdeithas ‘pawb drosto’i hun’ ydy hi. Mae pobl yn hiraethu am gael mwy a mwy o ‘bethau’. Maen nhw’n meddwl mai ennill y loteri fyddai’r peth gorau allai ddigwydd iddyn nhw. Falle fod yna fwy o arian o gwmpas, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn mynd i bocedi’r cyfoethog. Mae yna fwy a mwy o dlodi difrifol hefyd.
Yng nghanol hyn i gyd mae Duw eisiau i ni sy’n credu ynddo fod yn wahanol. Mae o am i ni, fel y proffwyd, droi ato fo a gweddïo arno. Beth amdanat ti heddiw? Mae gen ti gyfle i ddangos ffordd well. Wnei di fachu ar y cyfle hwnnw?
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 27Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net