Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 25 O 30

Darlleniad: Micha 6:1-5

Anghofio gwersi hanes

Roedd Israel wedi siomi Duw am ei bod wedi anghofio’r cwbl roedd o wedi ei wneud drosti. Yn yr adnodau yma mae Duw yn cyhuddo Israel o dorri ei hymrwymiad iddo. Mae’n galw’r bryniau a’r mynyddoedd i fod yn dystion i’w achos yn erbyn ei bobl.
Dywedodd rhywun fod dim dyfodol i bobl sydd wedi anghofio eu gorffennol. A dyna oedd wedi digwydd i bobl Dduw. Roedden nhw wedi anghofio. Mae Duw’n eu hatgoffa o’r ffordd wnaeth o eu hachub nhw o fod yn gaethweision yng ngwlad yr Aifft. Mae’n son hefyd am y ffordd y gwnaeth ofalu amdanyn nhw yn ystod y cyfnod o grwydro yn yr anialwch.
Felly roedd Duw wedi galw Micha nid yn unig i broffwydo am y dyfodol, ond hefyd i atgoffa’i bobl am eu gorffennol, a’u herio i ystyried sut ddylai hynny newid eu hagwedd yn y presennol. Roedd pobl Israel wedi bod yn gaethweision, ac roedd Duw am iddyn nhw gofio hynny rhag iddyn nhw gael eu temtio i gamdrin pobl eraill. Ond yn anffodus dyna’n union oedd wedi digwydd – roedd pobl Israel wedi anghofio. Roedd pobl dlawd yn cael eu gorthrymu a’u camdrin ganddyn nhw.
Beth amdanom ni? Mae’r Beibl yn ein hatgoffa’n gyson i beidio anghofio rhai pethau. Mae Duw wedi’n hachub ni o gaethiwed pechod drwy farwolaeth Iesu ar y groes. Ydyn ni’n anghofio hynny weithiau? Beth alli di ei wneud heddiw i drin rhywun arall fel mae Duw wedi dy drin di? Rydyn ni’n cael ein galw i garu eraill am ei fod o’n gyntaf wedi’n caru ni (Ioan 17:26).
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 24Diwrnod 26

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net