Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 29 O 30

Darlleniad: Micha 7:8-20

Bydd Duw yn achub ei bobl

Yn ein darlleniad heddiw mae Micha fel petai’n siarad ar ran dinas Jerwsalem. Ar ôl troi at Dduw (adn.7) mae o’n siarad yn hyderus ar ei rhan. Mae’n dweud y bydd Jerwsalem yn codi eto er iddi syrthio; bydd golau yn ei harwain o dywyllwch; er iddi gael ei chosbi bydd Duw yn ochri gyda hi. Bydd Jerwsalem yn dathlu a’r byrddau’n cael eu troi ar y gelynion oedd yn ei gwawdio hi.
Mae’r proffwyd wedyn yn edrych ymlaen i’r diwrnod hwnnw pan fydd Jerwsalem yn cael ei hailadeiladu ac yn llwyddo eto. Ac wrth feddwl am y diwrnod hwnnw mae’n troi i weddio ar Dduw. Mae’n gweddïo am fendith eto. Mae’n gweddïo am exodus arall. Mae’n dweud y bydd y gwledydd i gyd yn dystion i’r cwbl ac yna’n dychryn wrth feddwl y bydd rhaid iddyn nhw hefyd wynebu Duw. Yna mae Micha yn moli Duw am ei faddeuant, ei garedigrwydd, ei haelioni, ei ffyddlondeb a’i drugaredd.
Mae cyflwr ysbrydol Cymru yn druenus ar hyn o bryd. Ond rydyn ni’n gwybod fod Duw wedi gwneud pethau rhyfeddol yn y gorffennol. Roedd Cymru yn cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Diwygiadau’. Mae’n bryd i ni, fel Micha, droi at Dduw eto, yn hyderus y bydd y sefyllfa yma yn newid. Mae’n bryd i ni weddio ar iddo fendithio Cymru eto, fel y gwnaeth mor aml yn y gorffennol. Mae’n bryd i ni ei foli am ei faddeuant, ei garedigrwydd, ei haelioni, ei ffyddlondeb a’i drugaredd.
Beth am i ti weddio ar Dduw fel yna heddiw?
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 28Diwrnod 30

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net