Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 26 O 30

Darlleniad: Micha 6:6-8

Mae Duw wedi dweud beth mae o eisiau

Allwn ni byth dalu’n ôl i Dduw am y cariad rhyfeddol mae o wedi ei ddangos aton ni. Mae o yn gofyn i ni ei addoli, ond mae’n amlwg fod yna rai pethau fyddai o byth eisiau i ni eu gwneud (adn.7). Tybed oedd yna rai pobl yn meddwl y gallen nhw freibio Duw i’w derbyn nhw gyda’u defodau crefyddol? Ond mae’r adnodau yma heddiw yn dangos i ni fod crefydda yn wag os nad ydy’r addolwr wedi deall beth ydy hanfod ffydd go iawn.
Mae’n hawdd i ni dybio weithiau fod yna ryw rinwedd yn ein defodau crefyddol ni, a bod mynd i gapel neu eglwys yn rheolaidd fel petai’n ennill ‘brownie points’ i ni fel Cristnogion. Ond nid felly mae hi. Does dim byd allwn ni ei wneud fydd yn gwneud i Dduw ein caru ni fwy na mae o wedi’n caru ni’n barod. Y cwbl mae o’n ei ofyn gynnon ni ydy ein bod ni’n pwyso arno fo ac yn byw mewn ffordd sy’n dangos i eraill sut un ydy o.
Mae o am i ni hybu cyfiawnder. Mae hynny’n golygu ein bod yn byw mewn perthynas iawn gyda Duw ei hun a chyda phobl eraill.
Mae o am i ni fod yn hael bob amser. Mae gofalu am bobl dlawd ac anghenus ein byd yn adlewyrchu rhywbeth o natur Duw ei hun.
Mae o am i ni fod yn wylaidd ac yn ufudd iddo. Mae balchder yn bechod ofnadwy – mae’n gwadu’r ffaith ein bod yn dibynnu’n llwyr ar gariad Duw. Dydy ufudd-dod ddim yn ffordd o ennill ffafr a chanmoliaeth Duw – ffrwyth ein perthynas hefo Duw ydy’n hufudd-dod ni. Mae’n dangos fod Duw ar waith yn ein bywydau ni.
Sut alli di wneud beth mae Duw am i ti ei wneud heddiw?
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 25Diwrnod 27

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net