Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Micha 5:1-4
Duw y pethau bychain
Ddoe roedden ni’n gofyn os oedd yr adnodau ar ddiwedd pennod 4 yn cyfiawnhau trais a rhyfel. Roedden nhw’n son am elynion Jerwsalem (pobl Dduw) yn cael eu sathru a’u concro. Heddiw yn y bennod hon, mae Micha yn proffwydo sut mae’r fuddugoliaeth yn erbyn gelynion pobl Dduw yn mynd i gael ei hennill.
Mae’n son am un fydd yn dod o bentref Bethlehem ac “yn teyrnasu yn Israel”. Un “sydd â’i wreiddiau yn mynd yn ôl i’r dechrau yn y gorffennol pell.” Un fydd “yn codi i arwain ei bobl fel bugail yn gofalu am ei braidd.” Un fydd yn gweithredu “yn nerth yr ARGLWYDD.” Mae’n siwr dy fod wedi sylweddoli erbyn hyn fod Cristnogion yn credu mai proffwydoliaeth am eni Iesu Grist sydd yma. Mae’r adnodau sydd yn ein darlleniad heddiw yn cael eu darllen yn aml mewn oedfaon Nadolig yn ein heglwysi.
Duw sy’n troi gwerthoedd y byd â’u pen i lawr ydy’r Arglwydd. Mae o’n cyflawni ei fwriadau drwy fabi bach fydd yn cael ei eni mewn pentref di-nod. Nid grym Herod ac Ymerodraeth Rhufain fyddai’n cael y llaw uchaf. Na, Iesu, a fo ydy’r un fydd yn “cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw’r byd.”
Cofia ddiolch i Dduw heddiw mai Iesu, y Meseia anfonodd o i’r byd, sy’n ein helpu ni i ddeall y Beibl bob amser. Mae’r hanes am Iesu yn cael sgwrs gyda dau ddisgybl oedd ar eu ffordd i bentref o’r enw Emaus, yn dangos hynny’n glir i ni – Luc 24:27, 32.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net