Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 22 O 30

Darlleniad: Micha 4:9-13

Bydd Duw yn gorchfygu’r drwg

Mae Micha yn son am argyfwng dinas Jerwsalem. Mae’n ei darlunio hi fel gwraig yn sgrechian mewn poen wrth gael babi. Yn adn.9-11 mae’r proffwyd Micha yn darlunio’r argyfwng ac yn dweud y bydd y bobl yn cael eu cymryd i Babilon. (Mae hon yn broffwydoliaeth ryfeddol, gan mai byddin Asyria oedd y gelyn oedd yn bygwth Jwda ar y pryd – gw. Eseia 39:6,7 lle mae Eseia’n proffwydo yr un peth.) Roedd y gwledydd o gwmpas Jerwsalem wrth eu boddau yn gweld fod y ddinas ar fin cael ei dinistrio. Ond wnest ti sylwi ar y gosodiad ar ddiwedd adnod 10? Mae Micha’n dweud yn glir y bydd Duw yn achub ei bobl eto ac yn eu gollwng yn rhydd.
Yn adn.12-13 mae’r proffwyd Micha yn rhoi pyrsbectif gwahanol ar y sefyllfa. Doedd y gwledydd oedd yn gwneud sbort ar ben Jerwsalem ddim yn deall cynllun Duw. Mae’r proffwyd yn dweud fod y gwledydd yna yn mynd i gael eu “casglu fel gwenith i’r llawr dyrnu” (darlun ohonyn nhw yn cael eu barnu), ac mae’n son am Seion (sef Jerwsalem) yn cael “cyrn o haearn” ac yn “sathru llawer o wledydd”.
Yn ein dyddiau ni mae gwlad Israel yn brwydro eto yn erbyn y bobloedd o’i chwmpas – yn arbennig y Palestiniaid a Libanus. Byddai’r gwledydd hynny wrth eu boddau yn gweld Israel yn cael ei dinistrio yn llwyr ac yn peidio â bod. Ond ydy’r addewid am y “cyrn o haearn” a’r “sathru llawer o wledydd” yn cyfiawnhau grym a pholisiau milwrol Israel heddiw, yr holl ladd a’r dinistr welwn ni? Na, dim o gwbl. Ddoe roedden ni’n darllen am Dduw yn dod â rhyfel i ben! Felly beth gawn ni yn yr adnodau yma ydy darlun o fwriadau da Duw i’w bobl. Cafodd y bwriadau hynny eu cyflawni yn Iesu Grist, ac mae’r Testament Newydd yn son am frwydr ysbrydol. Mae pobl Dduw yn aml yn dioddef, ond mae’r Beibl yn dweud mai Duw fydd â’r gair olaf. Bydd anobaith yn troi yn fuddugoliaeth. Wrth ddarllen yr adnodau yma yng nghyd-destun beth ddwedodd Micha ar ddechrau’r bennod, a beth sydd i ddod yn y bennod nesaf, gwelwn mai darlun sydd yma o fuddugoliaeth Duw dros ddrygioni.
Gelli ddathlu eto heddiw fod ein Duw ni yn Dduw sy’n mynd i orchfygu’r drwg.
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 21Diwrnod 23

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net