Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 21 O 30

Darlleniad: Micha 4:1-8

Y newyddion da am Heddwch

Mae’r adnodau ar ddechrau’r adran yma yn rai o’r adnodau mwyaf enwog yn llyfr Micha. (Mae’r un geiriau i’w cael yn Eseia 2:2-4 hefyd, ond does neb yn siwr iawn pwy sy’n dyfynnu pwy!) Mae’n weledigaeth fendigedig o arfau rhyfel yn cael eu hailgylchu yn offer amaethyddol. Offer dinistr a marwolaeth yn cael eu troi yn gyfrwng bywyd ac iechyd. Mae’n son am ddydd pan fydd rhyfela yn peidio a bod.
Rydyn ni’n gweld cymaint o anghyfiawnder yn ein byd. Mae cymaint o ryfeloedd a chasineb rhwng pobloedd â’i gilydd. Mae cymaint o ladd. A hyd yn oed pan mae’r ymladd yn stopio a chytundebau heddwch wedi eu harwyddo, mae tensiynau’n parhau a miloedd o deuluoedd yn brifo. Mae cytundebau heddwch dynol yn bethau bregus iawn.
Ond mae Micha yn peintio darlun o sefyllfa anhygoel o wahanol. Mae’n disgrifio oes newydd o heddwch go iawn pan fydd pobl o’r gwledydd i gyd yn troi at Dduw. Bydd neges heddwch yn mynd allan o Jerwsalem (“dinas heddwch”), ac yn arwain yn y pendraw i fyd lle bydd gwir heddwch a chyfiawnder.
Mae’r darlun o “bawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn” yn olygfa o gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd. Dyna mae Duw eisiau, ac mae’r proffwyd yn datgan yn adn.5 ei fod o felly yn mynd i fod yn ffyddlon i’r Arglwydd (beth bynnag mae pawb arall yn dewis ei wneud.)
Mae Cristnogion yn gweld fod ‘y newyddion da am heddwch’ wedi mynd allan o Jerwsalem i’r byd yn y neges ryfeddol am farwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae Duw, trwy Iesu, yn dod â gweledigaeth Micha yn wir. Mae wedi addo’r peth! Mae’r deyrnas heddychlon yma sydd i ddod un dydd yn derynas sydd wedi torri i mewn i’r presennol, ac yn dy wahodd di i fod â rhan ynddi heddiw.
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 20Diwrnod 22

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net