Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Micha 3:9-12
Perygl hunan-dwyll
Mae Micha yn enwi pawb oedd yn euog o orthrymu pobl gyffredin Jerwsalem – y barnwyr, yr offeiriaid a’r proffwydi. Mae o’n dweud yn blaen wrthyn nhw y byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Beth oedd wedi cythruddo’r proffwyd fwy na dim oedd fod yr arweinwyr yma’n meddwl fod Duw gyda nhw, er gwaetha’r holl anghyfiawnder a’r ffaith eu bod yn defnyddio eu hawdurdod i elwa ar draul pobl eraill. Ond doedden nhw ddim yn fodlon credu y byddai dim byd drwg yn digwydd iddyn nhw nac i ddinas Jerwsalem. Dyna i chi beth oedd hunan-dwyll!
Mae cymaint o bobl wedi bod mewn sefyllfaoedd o wrthdaro tra’n honni fod Duw ar eu hochr nhw. Sut mae gwybod os ydy Duw ar ein hochr ni ai peidio? Sut mae gwybod nad ydyn ni’n twyllo ein hunain? Wel, dwedodd rhywun mai’r cwestiwn i’w ofyn ydy nid “Ydy Duw gyda ni?” ond “Ydyn ni gyda Duw?” – dyna’r union gwestiwn oedd ddim yn cael ei ofyn gan arweinwyr Jerwsalem. Roedden nhw’n cario ymlaen gyda’u bywydau gan gymryd yn ganiataol fod Duw gyda nhw. Ond y realiti oedd fod Duw yn eu herbyn nhw ac yn mynd i’w barnu nhw.
Dwedodd yr apostol Iago fod credu heb weithredu yn dda i ddim (Iago 2:26). Roedd y bobl mae o’n son amdanyn nhw yn twyllo eu hunain i feddwl fod ‘credu’ yn rywbeth i’r meddwl yn unig, ac nad oedd o’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Oes yna beryg weithiau i ni gymryd Duw yn ganiataol? - Tybio ei fod o gyda ni, heb ystyried y cwestiwn ydyn ni gydag o.
Cofia. Mae Duw yn dy wahodd di i droi ato o’r newydd bob dydd.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net