Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 19 O 30

Darlleniad: Micha 3:1-8

Y gwleidyddion a’r arweinwyr crefyddol ar fai.

Pa sawl gwaith wyt ti wedi clywed pobl yn ymosod ar wleidyddion? Mae’n digwydd o hyd ac o hyd. Weithiau mae yna gyfiawnhad dros y feirniadaeth, ond dro arall dydy o’n ddim byd ond rhagfarn. Mae gwleidyddion i fod i ofalu am eu pobl a gweithio er eu lles. Ond yn aml yn ein cymdeithas ddemocrataidd mae gwleidyddiaeth plaid yn cael y flaenoriaeth.
Yn nyddiau Micha roedd pethau’n llawer gwaeth.
Roedd arweinwyr y wlad wedi meddwi ar eu grym, ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i elwa ar draul pobl eraill. Roedd gan y proffwyd Micha eiriau cryf yn erbyn yr anghyfiawnderau yma.
Yn adn.1-4 mae Micha yn ceryddu gwleidyddion y wlad, ac yn eu disgrifio nhw fel rhai sy’n casáu beth sydd dda ac yn caru’r hyn sy’n ddrwg. Mae’n eu cyhuddo nhw o gamdrin y bobl yn gwbl ddidrugaredd. Mae’n mynd mor bell a’u galw nhw yn ganibaliaid! Yna mae’n eu rhybuddio nhw fod yna ddydd yn dod pan fyddan nhw’n galw ar Dduw a fydd o ddim yn ateb.
Yna yn adn.5-7 mae’n ymosod ar y proffwydi. Beth sy’n cael ei ddisgrifio yma ydy’r sefydliad crefyddol sy’n dweud beth mae pobl eisiau ei glywed, cyn belled â’u bod yn cael eu talu. Ac mae Micha’n eu rhybuddio y bydd dydd yn dod pan fydd popeth yn mynd o’i le iddyn nhw – byddan nhw yn y tywyllwch yn llwyr.
Mae adn.8 yn dweud fod y proffwyd Micha yn wahanol – roedd o yn ei dweud hi fel y mae hi, ac yn gwneud hynny drwy nerth Ysbryd Duw.
Dydy Duw ddim yn edrych am wleidyddion sydd ond yn dilyn polisïau’r parti, na rhai sy’n meddwi ar eu grym eu hunain. Dydy Duw ychwaith ddim yn edrych am sefydliadau crefyddol sydd ond yn ymdrechu i gynnal eu hunain. Beth mae Duw eisiau ydy gonestrwydd, cyfiawnder a nerth ysbrydol.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 18Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net