Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Micha 2:12-13
Mae gobaith!
Er bod Duw wedi dweud yn glir sut oedd o’n teimlo am wrthryfel y bobl yn ei erbyn o (mynd ar ôl delwau ac eilunod – ‘duwiau’ oedd ddim fel y Duw go iawn). Er ei fod wedi condemnio’n glir yr anghyfiawnderau yn y gymdeithas (pobl gyfoethog yn ecsploetio’r tlawd). Yma mae’n cynnig ffordd wahanol. Mae’n cynnig darlun gwahanol. Mae’n cynnig gobaith.
Yn yr adnodau yma mae yna weledigaeth o bobl Dduw wedi eu casglu at ei gilydd unwaith eto, a’r rhaniadau yn y gymdeithas wedi dod i ben. Mae’r proffwyd yn son am “un sy’n torri trwodd yn eu harwain nhw allan i ryddid.” Mae’n son am y bobl yn “mynd allan drwy’r giatiau a gadael gyda’u brenin ar y blaen”, ac yna’n datgan yn glir “Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!” Mae yna ryw deimlad gwefreiddiol o lawenydd a rhyddid a dathlu yma.
Dweud mae o na fydd y farn sydd i ddod, gyda byddin Babilon yn dinistrio a choncro’r wlad, yn ddiwedd y stori. Bydd Duw yn casglu ei bobl at ei gilydd unwaith eto. Byddan nhw’n rhydd!
Ond mae Cristnogion yn gweld ystyr ddyfnach i’r darlun yma. Byddai un yn dod ryw ddydd i ryddhau pobl o gaethiwed pechod – Iesu, y Meseia. Iesu ydy’r un fyddai’n “torri trwodd” ac yn arwain ei bobl i ryddid. A fo, eu brenin a’u Harglwydd, fyddai’n eu harwain nhw.
Beth am i ti ddiolch iddo heddiw am y rhyddid mae’n ei gynnig o bopeth drwg yn y byd? Beth am i ti ddathlu’n llawen dy fod ti yn un o ddefaid y Bugail Da? (Ioan 10:14,15) Sut alli di heddiw rannu’r llawenydd sy’n dod o’i ddilyn?
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net