Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 17 O 30

Darlleniad: Micha 2:1-11

Ar ochr pwy wyt ti?

Rydyn ni’n son yn aml am y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Pan oedd Micha’n dechrau proffwydo a rhannu neges Duw roedd gwlad Jwda yn eitha llwyddiannus yn economaidd. Roedd pethau’n mynd yn dda yn y wlad. Ond doedd hynny ddim yn golygu fod bywyd yn braf i bawb. Roedd y llwyddiant economaidd yn gwneud bywyd yn braf iawn i’r bobl gyfoethog, ond roedd llawer iawn o bobl eraill yn dioddef anghyfiawnder cymdeithasol a thlodi difrifol.
Mae ein gwleidyddion ni heddiw yn aml yn son am ‘dyfiant economaidd’ a ‘datblygiad’ – y nod bob amser ydy gwneud mwy o arian. Ond y gwir ydy fod y geiriau yma mor aml yn cuddio realiti’r sefyllfa – lle mae’r cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a’r tlawd yn mynd yn dlotach. Rhai pobl yn elwa ar draul y mwyafrif.
Ond wrth i’r proffwyd Micha herio’r gwerthoedd yna, dyma’r ymateb gafodd o: “Stopia falu awyr!” medden nhw’n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
Mae yna bob amser ecsbloetwyr cyfoethog sydd eisiau mwy o dir a mwy o eiddo, ac mae pobl felly yn gallu bod yn greadigol iawn wrth gynllwynio ffyrdd o gael beth maen nhw eisiau. Ond cyn i ni ddechrau pwyntio bys at bobl eraill, falle y dylen ni feddwl am funud a chydnabod fod y meddylfryd yna yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas ni. Rydyn ni’n byw mewn diwylliant sy’n dweud fod “eisiau mwy” yn beth da. Mae peryg i bawb syrthio i’r trap o feddwl mai dyna sy’n gwahaniaethu rhwng ‘llwyddiant’ a ‘methiant’. Ydy, mae’r pechod a’r math yma o feddylfryd fel petai wedi dod yn rhan o strwythur ein cymdeithas.
Ond yna clywn lais y proffwyd Micha yn cyhoeddi fod Duw ar ochr y bobl hynny sy’n cael eu hecsboletio. Mae’n dweud fod Duw yn ddig wrth weld anghyfiawnder, ac y bydd yn ymyrryd o blaid y bobl hynny sy’n cael eu gorthrymu. Falle mai’r cwestiwn y dylai pob un ohonon ni ei ofyn ydy “Ar ochr pwy ydw i?”
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net