Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 16 O 30

Darlleniad: Micha 1:8-16

Gwneud beth mae Duw eisiau?

Mae’r proffwyd yn dweud ei fod wedi torri ei galon yn lân. Mae’n galaru wrth weld y drwg yn lledu fel mae haint neu salwch yn mynd ar led.
Mae’n disgrifio byddin y gelyn ar ei ffordd i goncro Jwda, ac yn dweud mai barn Duw arnyn nhw ydy hynny. Mae’n chwarae gydag enwau gwahanol drefi fyddai’n cael eu concro gan y gelyn – e.e. enwau fel Beth-leaffra (Tŷ’r llwch), pobl Shaffir (y dref hardd) yn cerdded yn noeth, Saänan (mynd allan) yn methu symud, Maroth (pethau chwerw), Moresheth-gath (dyweddi) yn gorfod gadael, Achsib (twyllodrus/siomedig) a Maresha (concwerwr).
Pobl Dduw oedd pobl Jwda i fod, ond roedden nhw wedi ymwrthod â’u galwad i ddangos Duw i’r byd. Roedd eu hymddygiad yn gwbl groes i’r hyn roedd Duw eisiau, ac felly dim ond trychineb allai ddilyn. Roedd y dinistr roedden nhw’n ei wynebu yn rywbeth roedden nhw’n ei haeddu. Roedden nhw wedi bod yn ystyfnig ac anufudd, ac wedi cymryd Duw yn ganiataol.
Ond ydy darlun mor dywyll yn berthansol i ni heddiw? Ydy, oherwydd cyn credu’r newyddion da, mae pawb yn tynnu’n groes i Dduw. Beth mae Duw eisiau ydy iddyn nhw droi ato a’i drystio. Mae Duw yn galw ei eglwys i berthynas iawn ag o’i hun. Maen galw pob un ohonon ni sy’n credu yn Iesu i fod yn halen a goleuni yn ein byd. Ni sy’n cynrychioli Duw, a dylai’n geiriau a’n gweithredoedd ni ddangos i’r byd sut un ydy o. Ond hyd yn oed ar ôl i ni gredu, onid oes peryg weithiau ein bod ni’n cymryd Duw yn ganiataol? Oes yna beryg fod rhai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud yn brifo Duw?
Mae Duw’n dy wahodd di eto heddiw i droi ato a chael dy lenwi o’r newydd â’i nerth, i’th alluogi di i wneud beth mae o eisiau. Mae o eisiau dy ddefnyddio di heddiw i ddangos i bobl o dy gwmpas sut Dduw ydy o. Gweddïa, “Dw i eisiau ... i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yn fy mywyd i a thrwof fi.”
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 15Diwrnod 17

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net