Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 15 O 30

Darlleniad: Micha 1:1-7

Siom Duw yn ei bobl

Yr olygfa ar ddechrau llyfr y proffwyd Micha ydy’r llys barn. Mae Duw yn cyhoeddi fod ei bobl yn Israel a Jwda wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Yn lle gwrando arno ac ufuddhau iddo maen nhw wedi cyfaddawdu a throi at ‘dduwiau’ sydd ddim mwy na delwau ac eilunod marw.
Mae’n brifo Duw ac yn ei wneud yn ddig pan mae’n gweld pobl yn addoli pethau sydd ddim yn dduwiau. Ac mae hynny’n digwydd yn ein dyddiau ni hefyd – pobl yn addoli eilunod fel ‘llwyddiant’ ac ‘arian’ a ‘phoblogrwydd’. Dyna’r math o bethau sy’n hawlio ymroddiad llwyr pobl yn y gwledydd cyfoethog. Felly mae geiriau Micha yn berthnasol i ni. Mae’n darlunio Duw sy’n ddig ac yn dod i farnu anufudd-dod ei bobl.
Mae’r adnodau yn ein darlleniad heddiw yn ein hatgoffa o ddau wirionedd:
Yn gyntaf, dydy popeth sy’n digwydd yn y byd ddim yn unol ag ewyllys Duw. Mae geiriau Iesu yng Ngweddi’r Arglwydd yn ein hatgoffa o hynny. Mae’n gofyn i ni weddio, “Dŷn ni eisiau ... i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.” (“Gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef” – BCN). Fyddai dim rhaid i ni weddïo’r fath weddi petai popeth sy’n digwydd yn ein byd yn rhan o ewyllys Duw.
Yna’n ail, mae’r adnodau yma yn ein hatgoffa fod Duw ddim jest yn eistedd yn y nefoedd yn edrych ar yr holl ddrygioni sydd yn y byd. Mae’n Dduw sy’n teimlo’r peth i’r byw, ac yn mynd i ymyrryd ryw ddydd i farnu’r drwg. A cofia, dydy’r ffaith fod ‘Duw yn barnu’ ddim yn newyddion drwg, nac yn groes i’r syniad o ‘Dduw cariad’ Mae’n ein hatgoffa ni fod Duw yn Dduw cyfiawn, ac mae’r ffaith y bydd yn barnu yn neges o gysur a gobaith – h.y. mae’n mynd i wneud pethau’n iawn!
Mae pob un ohonon ni, fel Israel a Jwda, wedi troi at ‘dduwiau’ eraill. Ond y newyddion da ydy fod Duw yn dal i’n gwahodd ni i droi’n ôl ato a chael ein llenwi â’r nerth a’r gallu i fyw fel mae o am i ni fyw. Tyrd, tro ato o’r newydd heddiw!
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 14Diwrnod 16

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net