Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 14 O 30

Darlleniad: Jeremeia 29:4-14

Cynllun Duw ar ein cyfer ni.

Eistedda mewn tawelwch am funud, gofynna i Dduw siarad efo ti heddiw.
Roedd Jeremeia yn sgwennu’r geiriau yma at bobl Jwda oedd yn byw mewn gwlad dramor. Roedd ei bobl wedi cael eu cymryd yn gaeth i wlad Babilon, a’u gorfodi i fyw yno dan lywodraeth llym y Babiloniaid. A beth sydd gan Jeremeia i’w ddweud wrthyn nhw? Mae’n pregethu y dylai pawb setlo i lawr yno, gwneud eu hunain a’i teuluoedd yn gartrefol, a gweddïo dros y bobl oedd yn eu dal nhw’n gaeth! Doedd hwn ddim yn neges boblogaidd o gwbl, a cafodd Jeremeia ei alw’n fradwr gan lawer o’i bobl ei hun. Ond roedd Jeremeia yn gwybod, er falle nad oedd y sefyllfa’n edrych yn ddelfrydol, roedd gan Dduw gynllun ar gyfer ei bobl – er eu bod nhw’n gaeth mewn gwlad dramor.
Beth amdanat ti? Lle wyt ti arni? Wyt ti’n teimlo dy fod mewn sefyllfa anobeithiol, ac na all Duw fyth dy ddefnyddio di? Ble bynnag yr wyt ti arni, a sut bynnag ti’n teimlo heddiw, mae Duw eisiau dy ddefnyddio di rwan. Ia, ddim just yn hwyrach ymlaen mewn bywyd pan fydd pethau’n haws, ond rwan! Gan Dduw mae’r cynllun gorau ar dy gyfer di – felly trystia fo!
Gweddia ar i Dduw ddangos i ti beth mae o am i ti wneud, a rhoi’r nerth i ti allu gwneud yr hyn mae o’n ei ofyn.
Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net