Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 13 O 30

Jeremeia 20:7-13

Jeremeia yn methu peidio rhannu neges Duw.

Wyt ti’n teimlo fel just rhoi i fyny weithiau? Wyt ti wedi teimlo erioed fod popeth yn ormod? Wel, dim ti ydi’r cyntaf! Mae’r Beibl yn llawn hanesion am bobl yn cwyno i Dduw neu’n gweiddi am ei help – pobl sy’n tywallt eu calonnau o’i flaen. Pam wnei di ddim gwneud yr un peth heddiw? Mae Duw yn gallu ei handlo fo.
Tybed wyt ti wedi meddwl erioed, ‘Taswn i ddim yn Gristion byddai pethau gymaint haws! Byddwn i’n gallu ymddwyn fel dw i eisiau, a gwneud beth dw i eisiau – mae bod yn Gristion yn fy ngwneud i mor rhwystredig weithiau! Wel, dyna’n union sut oedd Jeremeia yn teimlo yn ein darlleniad heddiw. Mae o’n cwyno fod Duw wedi ei dwyllo i fod yn broffwyd ac yn cwyno fod Duw yn gryfach na fo ac felly’n amlwg yn mynd i gael ei ffordd ei hun (adn.7). Dydi Jeremeia ddim yn swnio’n ddyn hapus iawn!
Ond edrych ar y newid sy’n dod yn adnod 9 – hyd yn oed petai o’n trïo bod yn dawel am Dduw, byddai ei esgyrn yn llosgi yr un fath â fflam, a byddai’n rhaid i’r neges ddod allan rywsut! Mae Jeremeia’n gwybod mai byw mewn perthynas â Duw ydi’r UNIG ffordd i fyw. Dydi pleserau’r byd yma yn para am ddim – ond mae cael nabod a mwynhau Duw yn para am byth!
Beth mae Duw eisiau i ti ei ddweud neu ei wneud? Fyddai beth mae Duw eisiau yn llosgi tu fewn i ti petaet ti ddim yn ei wneud o?
Gwilym Jeffs
Diwrnod 12Diwrnod 14

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net