Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 12 O 30

Darlleniad: Jeremeia 17:11-18

Jeremeia’n trystio Duw

Oes rhywbeth yn dy boeni di heddiw? Cyflwyna’r pethau hynny i Dduw.
Roedd Jeremeia yn bod yn ufudd ac yn dweud beth roedd Duw wedi gofyn iddo’i ddweud wrth ei bobl, ond doedd neb yn gwrando. Yn waeth na hynny roedden nhw’n gwneud hwyl ar ei ben. Ond mae Jeremeia yn un grêt am atgoffa ei hun fod Duw wedi ei alw a’i benodi o i wneud y gwaith yma o siarad ar ei ran. Mae o’n gwybod yn iawn y gall o drystio Duw oherwydd sdim ots sut mae pethau’n edrych ar y pryd, mae Jeremeia’n gwybod yn y diwedd mai’r rhai sydd ddim yn credu fydd yn cael eu cywilyddio (adn.13). Wnaeth Duw erioed addo i Jeremeia y byddai’n waith hawdd iddo broffwydo i’w bobl, ond roedd o wedi gaddo y byddai o gydag o ac yn ei amddiffyn pan fyddai pethau’n anodd.
Wyt ti’n cael pethau’n anodd wrth drïo dilyn Iesu? Oes yna bobl yn dy wawdio di ac yn gwneud hwyl ar dy ben? Tyrd o flaen Duw a gofyn iddo dy atgoffa di o beth mae o wedi dy alw di i’w wneud, a hefyd ei fod wedi gaddo bod gyda ti drwy’r amser.
Gwilym Jeffs
Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net