Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Jeremeia 16:19-21
Gweddi am hyder
Just meddylia am y Duw ti’n dod o’i flaen pan wyt ti’n cael amser tawel i ddarllen o’r Beibl ac i weddïo. Mae o’n Dduw anhygoel – yn Greawdwr y bydysawd, yn frawychus ei nerth, ond ar yr un pryd yn dy garu di fwy na neb arall sy’n dy garu ... hyd yn oed dy fam!
Roedd Jeremeia yn gwybod sut brofiad oedd o i gael ei hambygio am ddilyn Duw. Roedd ei bobl ei hun yn ei gasáu o fwy na’r gelyn, sef y Babiloniaid. Cafodd ei daflu i waelod pydew mwdlyd gan un brenin oedd yn anhapus efo’i neges. Ond yn ein hadnodau heddiw mae Jeremeia yn gweddio ar Dduw yn llawn hyder. Mae o’n gwybod mai Duw ydi’r unig un sy’n gallu ei amddiffyn a rhoi nerth iddo fo mewn amseroedd caled (adn.19). Mae o’n gwybod hefyd nad oes gan eilunod na duwiau eraill dim pŵer; mae’n dweud yn hytrach eu bod nhw’n ‘dda i ddim...yn gallu helpu neb’ (adn.19). Neges Duw ydi ei fod o yn mynd i ddangos i’w bobl yn glir mai fo yn unig ydi Duw. Fo ydi’r Duw go iawn.
Oes yna unrhyw ddelwau neu dduwiau eraill yn dy fywyd di? Does ddim rhaid i eilunod fod wedi eu gwneud allan o bren neu fetel i ti eu haddoli... Beth wyt ti’n gwario mwya o amser yn meddwl amdano, ac yn breuddwydio amdano? Ar beth wyt ti’n fodlon gwario arian ac amser arno? Be sy’n dy wneud ti fwya blin os ti’n methu ei wneud?
Dywed sori wrth Dduw am wneud rhywbeth neu rywyn yn bwysicach na fo yn dy fywyd. Bydd yn dawel am funud wrth i ti ofyn i Dduw ddod i’r canol a bod yn Arglwydd ar dy fywyd.
Gwilym Jeffs

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net