Blas ar y Beibl 3Sampl
Darlleniad: Jeremeia 12:1-4
Jeremeia’n cwyno
Be ydi’r peth pwysicaf yn dy fywyd di tybed? Cymer funud i ddod ag unrhyw beth sy’n dod i dy feddwl at Dduw.
Oes yna rywun wyt ti ʼdi bod wir yn genfigennus ohono erioed? Yn ein darlleniad heddiw mae Jeremeia yn edrych o’i gwmpas ar y bobl hynny oedd yn llwyddianus – y bobl yna oedd wedi gwneud yn dda er eu bod nhw’n malio dim am Dduw. Ond yn lle stiwio mewn cenfigen mae Jeremeia yn troi at Dduw. Mae o’n cydnabod mai Duw ydi’r un sydd wedi eu gwneud nhw’n llwyddianus (adn.2), ond mae o hefyd yn sylweddoli fod Duw yn mesur llwyddiant mewn ffordd wahanol iawn i bobl. Mae Duw yn edrych ar ein calonnau ni. Mae o’n ein nabod ni, ac yn edrych ar y rheswm pam ein bod ni’n gwneud rhai pethau, ddim just sut. Gyda Duw, dim faint o brês neu ffrindiau neu A* yn TGAU na dim byd fel yna sy’n bwysig. Yr unig beth gwirioneddol bwysig ydi ein bod ni’n ei nabod o.
Felly cofia, mae Duw yn dy nabod di yn well na neb arall. Mae o’n gwybod beth sydd yn dy galon a beth sydd yn dy gymell i wneud gwahanol bethau. Gofynna i Duw dy wneud yn berson sydd wrth ei fodd (Actau 13:22).
Gwilym Jeffs

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.
More
gol. Arfon Jones, gig / beibl.net