Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 7 O 30

Darlleniad: Salm 44

Ydy Duw wedi anghofio?

Wyt ti’n teimlo fel petai Duw wedi anghofio amdanat ti weithiau? Siarada efo Duw a gofyn iddo dy atgoffa di o’r holl droeon yna mae o wedi bod mor ffyddlon.
Da ni wedi gadael Jeremeia am ychydig bach i edrych ar Salm 44. Er mai person gwahanol wnaeth sgwennu y Salm, mae’r teimladau a’r neges yn debyg iawn i hanes Jeremeia. Mae awdur y Salm yn atgoffa ei hun o’r holl droeon roedd Duw wedi bod yna i bobl Israel. Roedd o wedi eu helpu i ennill brwydrau, curo eu gelynion, ac wedi achosi i’w bobl dyfu a chynyddu. Roedd hyn i gyd wedi digwydd oherwydd fod Duw yn eu caru nhw (Salm 44:1-3). Mae’r awdur yn mynd mor bell a dweud nag ydy rhywun yn gallu gwneud dim byd heb Dduw – does ganddo ddim ffydd yn ei fwa a saeth ei hun, dim ond yn Nuw (Salm 44:4-5).
Ond bellach, mae fel petai Duw wedi troi cefn arno. Mae o’n teimlo mor bell i ffwrdd, ac mae cenedl Israel yn diodde o’r herwydd – mae pawb yn gwneud hwyl ar eu pennau, yn eu trechu mewn brwydrau ac mae’r bobl yn am lyn cael eu cipio gan y gelyn. Mae’r salmydd yn ‘gutted’ ar ran ei bobl, ond mae’n dweud mai arnyn nhw mae’r bai, am eu bod wedi troi i ffwrdd oddi wrth Dduw (Salm 44:17-18). Er hyn i gyd, mae o’n llawn ffydd – mae o’n credu y bydd y genedl yn dod trwy’r amser anodd ac y bydd Duw yn eu hachub nhw eto. Ond fydd hynny ddim yn digwydd am fod y genedl yn haeddu’r peth, ond am fod Duw mor dda.
Ble mae dy galon di arni o flaen Duw? Oes angen i ti droi nôl ato? Mae Duw eisiau i bob un ohonon ni droi ato fo’n rheolaidd. Mae o eisiau maddau ni am y pethau rydyn ni wedi eu gwneud yn rong – dim am ein bod ni’n haeddu hynny, ond am ei fod o yn Dduw mor dda.
Gwilym Jeffs
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net