Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 8 O 30

Darlleniad: Jeremeia 10:1-16

Mae Duw mor fawr!

Pa bethau ydyn ni’n meddwl sy’n well na, neu’n fwy na, Duw? Falle fod angen i ti ddod o flaen Duw heddiw i ddweud sori am wneud rhywbeth arall yn fwy na fo.
Wyt ti’n cofio faint o ofn oedd gan Jeremeia ar ddechrau ei lyfr? Roedd ganddo ofn be fyddai pobl yn ei feddwl ohono, ofn am ei allu ei hun... Ond edrycha arno fo yma! Mae Jeremeia yn gweiddi allan mor fawr ydi Duw! Mae o’n cymharu y Duw mae o’n ei nabod hefo ‘duwiau’ eraill roedd pobl yn eu haddoli, ag yn dod i’r casgliad mai ‘Yr ARGLWYDD ydy’r unig Dduw go iawn.’ (adn. 10).
Faint o weithiau wyt ti wedi edrych o dy gwmpas ar y pethau mae pobl eraill yn eu haddoli heb weld pa mor fawr, gymaint mwy prydferth, a miliynau o weithiau’n well, ydi Duw? Roedd Jeremeia yn byw yng nghanol pobl oedd yn fodlon addoli unrhyw beth ond Duw, ond roedd o’n dal i weld yn glir mai Duw oedd yr unig Dduw byw.
Dyma eiriau hen emyn. Beth am i ti eu darllen allan fel gweddi?
Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
a meddwl dyfnder d’angau loes,
pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd
a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd.
N’ad im ymddiried tra bwyf byw
ond yn dy angau di, fy Nuw;
dy boenau di a’th farwol glwy’
gaiff fod yn ymffrost imi mwy.
Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn
rasusau yn disgleirio’n llawn:
mil o rinweddau yn gytûn
yn prynu’r gwrthgiliedig ddyn.
Poen a llawenydd dan y loes,
tristwch a chariad ar y groes;
ble bu rhinweddau fel y rhain
erioed o’r blaen dan goron ddrain?
Myfi aberthaf er dy glod
bob eilun sydd o dan y rhod,
ac wrth fyfyrio ar dy waed
fe gwymp pob delw dan fy nhraed.
ISAAC WATTS, 1674-1748
efel. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
Gwilym Jeffs
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net