Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 3Sampl

Blas ar y Beibl 3

DYDD 4 O 30

Darlleniad: Jeremeia 6:14-27

Triniaeth Arwynebol

Wyt ti’n trïo ennill ffafr Duw weithiau? Wyt ti’n teimlo’n agosach ato ar ôl cael diwrnod ‘da’? Cofia, tydi Duw ddim isio i ni wneud pethau da er mwyn cael dod ato fo – mae o just isio i ni i ddod ato fo.
Roedd lot o bobl yn Jwda yr adeg yma wedi troi i ffwrdd oddi wrth Dduw. Er hynny, roedden nhw’n dal i fynd i’r deml i offrymu aberthau i Dduw. Pam oedden nhw’n gwneud hynny? Roedden nhw’n credu y byddai Duw yn gweithio fel ‘back-up plan’, ac y byddai o yn eu helpu nhw petaen nhw’n rhoi digon o aberthau iddo fo.
Falle ein bod ni heddiw ddim yn aberthu anifeiliad nac yn llosgi per-aroglau ddim mwy, ond rydyn ni’n gallu gwneud yr un camgymeriad a’r bobl yma yn nyddiau Jeremeia. Rydyn ni’n meddwl os gwnwn ni drio’n galetach neu bod ychydig bach yn neisiach neu os gwnawn ni ddarllen ein Beibl a mynd i’r capel bob Dydd Sul y bydd Duw yn sylwi ac yn cael ei blesio. Ond celwydd ydi meddwl fel yna. Mae Duw wedi gwneud yn glir mai dim ond trwy gredu yn Iesu y gallwn ni gael ein gwneud yn iawn o flaen Duw, dim trwy unrhyw beth arall ydyn ni’n ei wneud neu ddim yn ei wneud. Gallwn ni fyw bywyd ‘crefyddol’ a gwneud ‘pethau da’, ond heb gredu yn Iesu dydy’r cwbl ddim ond yn arwain i farwolaeth...
Wyt ti’n trio plesio Duw? Wyt ti’n meddwl os gwnei di drio yn y bydd o’n dy garu di fwy? Cymer funud i ystyried hyn: All Duw ddim dy garu di fwy na mae o’n dy garu di’n barod, na dim llai na mae o’n dy garu di’n barod ychwaith. Darllena Rhufeiniaid 8:31-39 i weld faint mae Duw yn dy garu!
Gwilym Jeffs
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 3

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 3 yn edrych ar ddau broffwyd - Jeremeia a Micha.

More

gol. Arfon Jones, gig / beibl.net