Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Mathew 5: 13
Halen
Yn ein cyfnod ni mae halen yn cael lot o ‘bad press’. Mae’n cael ei gyflwyno fel rhywbeth sy’n ddrwg i’n hiechyd ni os ydyn ni’n bwyta gormod ohono. Ond yma mae Iesu’n meddwl am halen fel rhywbeth da a defnyddiol, ac yn ei ddefnyddio fel darlun o’r hyn y dylai pob Cristion fod.
Roedd halen yn cael ei ddefnyddio cyn dyddiau’r rhewgell fel ffordd i gadw bwyd rhag pydru. Os oeddech chi yn gorchuddio cig hefo halen ac yn ei rwbio i mewn roedd y cig yn cadw am fisoedd. Yn yr un ffordd, mae’r Cristion i fod yn halen sy’n cadw safonau Duw yn ei fywyd, ei deulu ac yn y gymdeithas, gan eu stopio rhag “pydru”. Mae presenoldeb Cristion mewn ysgol, coleg neu waith yn gallu bod yn ddylanwad da.
Roedd halen yn cael ei ddefnyddio i roi blas gwell ar fwyd. Dyma’r prif bwynt yma, oherwydd mae halen di-flas yn gwbl ddi-werth. Felly mae’r Cristion i roi blas da ar fywyd trwy fod yn llawn cariad, llawenydd a haelioni. Mae angen i ni fod yn feddylgar wrth gymysgu hefo teulu a ffrindiau, ac ystyried sut allwn ni rannu cariad Duw yn ymarferol.
Roedd halen hefyd yn cael ei ystyried yn rhywbeth pur a glân. Un rheswm am hyn oedd ei liw gwyn llachar. Yn llyfr Lefiticus rhoddodd Duw orchymyn fod halen i’w gynnwys gyda phob offrwm oedd yn cael ei gyflwyno iddo - Lefiticus 2:13. Rydyn ninnau hefyd i fyw bywydau pur a glân fel bod Duw yn gallu ein defnyddio i wneud ei waith.
Nodwedd arall halen yw ei fod yn gweithio yn ddirgel ac yn anweledig. Felly y mae’r Cristion i fod weithiau, nid “in your face”, ond yn dylanwadu yn dawel a disylw ar bobl ac ar sefyllfaoedd. Dydi pob Cristion ddim yn berson cyhoeddus sydd yn licio sylw pobl eraill.
Beth amdanat ti? Sut fedri di fod yn debyg i halen, yn stopio pydredd, yn bur ac yn rhoi blas? Sut fedri di ddylanwadu yn ddirgel a thawel ar dy deulu fel Cristion?
Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.