Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 10 O 30

Darlleniad: Ioan 20:19-31

Wyt ti’n amau weithiau?

Mae Tomos yn gymeriad diddorol. Meddyliwch amdano yn cyfarfod y disgyblion eraill, a hwythau’n gyffro i gyd yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” (Cofia fod hyn wedi digwydd ar ôl i Iesu farw ar y groes). Sut oedd Tomos i fod i ymateb? Oedd o’n siomedig nad oedd o gyda nhw? Wnaeth o bwdu? Oedd o jest yn bod yn ystyfnig, neu wnaeth o gredu pob gair ddwedon nhw?

Tybed oedd yna duedd yn Tomos i fod ychydig yn fyrbwyll weithiau? - Dweud pethau mawr cyn meddwl beth roedd o’n ddweud. Mae yna hanes yn Ioan 11 am Lasarus, ffrind i Iesu, oedd yn sâl iawn. Mae Iesu’n penderfynu mynd ato i Jwdea. Roedd y disgyblion yn meddwl fod Iesu’n wallgo yn meddwl gwneud hynny. (Y tro dwetha roedd Iesu yn Jwdea roedd yr arweinwyr Iddewig eisiau ei ladd.) A beth oedd cyfraniad Tomos i’r drafodaeth? - “Gadewch i ni fynd i farw gydag ef!” Mae rhai yn meddwl fod hyn yn dangos fod Tomos yn besimist, ac eraill yn meddwl ei fod yn dangos dewrder rhyfeddol - ei fod yn ddyn oedd yn barod i wynebu unrhyw berygl hefo Iesu.

Wyddon ni ddim yn union beth oedd yn mynd trwy feddwl Tomos. Wyddon ni ddim chwaith pam nad oedd o hefo’r disgyblion eraill pan wnaeth Iesu ymddangos iddyn nhw am y tro cyntaf ar ôl atgyfodi. Tybed ydyn ni’n rhy barod i bardduo enw Tomos fel mae llawer o bobl wedi gwneud drwy ei alw yn ‘amheuwr’? Oes yna unrhyw un ohonon ni all ddweud ein bod ni erioed wedi amau?

Dydy llwybr ffydd ddim bob amser yn hawdd i’w gerdded. Mae yna amheuon a chwestiynau a phrofiadau negyddol yn hanes pob un ohonon ni, ac yn aml does neb arall yn gwybod am y peth. Dŷn ni’n gallu bod yn arbenigwyr ar guddio’n strygls mewnol oddi wrth bobl eraill. Y gwir ydy mai creaduriaid bregus ydyn ni. Dydy ffydd ddim yn rhywbeth sy’n dangos ein cryfder ni. Mynegiant o’n hangen am Dduw ydy ffydd. Dylen ni ddiolch nad ydy Iesu Grist yn un i roi i fyny arnon ni.

Cafodd Tomos wythnos gyfan i feddwl am beth oedd wedi digwydd. Pan ymddangosodd Iesu i’r disgyblion yr ail waith, roedd Tomos yno gyda nhw. Pan welodd o Iesu, ei ymateb y tro yma oedd, “Fy Arglwydd a’m Duw!”
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.