Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Mathew 5: 1, 2
Sut mae Duw am i ni fyw?
Am y pythefnos nesa byddwn ni’n myfyrio ar y Bregeth ar y Mynydd. Byddai’n dda dechrau bob dydd drwy weddïo a gofyn i Dduw roi ei Ysbryd i ni i’n helpu i ddeall a dod i’w nabod yn well.
Roedd Iesu’n aml iawn yn cyhoeddi Newyddion Da Duw yn yr awyr agored. Yma, mae’n siarad ar ochr mynydd, lle'r oedd hi’n hawdd i bobl ei glywed a’i gweld. Roedd y 12 disgybl a lot o bobl eraill wedi dod at ei gilydd i wrando arno. Dyn ni’n gweld yma bod Iesu’n rhannu’r Newyddion Da hefo pawb, ond weithiau roedd o’n hel y 12 at ei gilydd er mwyn esbonio rhai pethau (Mathew 13:36). Roedd Rabi (Athro crefyddol o genedl yr Iddewon) fel arfer yn eistedd i lawr wrth ddysgu a dyma nath Iesu yma.
Mae 'na lot o resymau inni edrych ar y Bregeth ar y Mynydd: 1. Yma mae Iesu yn dangos sut mae Cristion i fihafio. Nid dweud mae o, “Os newch chi fyw fel hyn fe fyddi di’n Gristion”, ond “ar ôl i ti gredu yno i fel Gwaredwr, fel hyn rwyt ti i fyw.” 2. Mae gwersi Iesu yma yn gwbl berthnasol i ni heddiw oherwydd mae’n trafod pethau pwysig am Dduw, pechod, tristwch, hapusrwydd, stress, arian, a pherthynas hefo Duw a phobl eraill. 3. Wrth edrych ar eiriau Iesu yma, gwelwn pa mor isel yw’n safonau ni a pha mor berffaith yw Duw. Maen nhw’n dangos inni nad ydyn ni’n cyrraedd y safon mae Duw yn ei ddisgwyl ac felly rhaid i ni droi at Iesu Grist a’i groes er mwyn cael ein golchi o’n pechod a chael dechrau newydd. 4. Mae yn ein hannog hefyd i ddisgyblu ein hunain fel Cristnogion. Dydi Iesu ddim yn mwydro ac yn mynd ymlaen ac ymlaen. Mae’n defnyddio chydig eiriau i ddweud lot.
Gallwn ni rannu’r Bregeth ar y Mynydd yn dair rhan 1. Math. 5:2-16 sy’n cyfeirio at Gristnogion. 2. Mathew 5:17 - 7:12 sy’n cyfeirio at gyfiawnder Teyrnas Dduw a’r safon uchel mae Iesu yn ei ddisgwyl. 3. Mathew 7:13-27, lle mae Iesu yn annog ei bobl i ddod i mewn i’r Deyrnas ac i fyw ei eiriau.
Mae’n bwysig trafod materion ysbrydol a moesol hefo Cristnogion eraill. Wyt ti yn gneud hyn?
Alun Tudur

Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.