Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 16 O 30

Darlleniad: Mathew 5:6

Cyfiawnder

Mae’r bendithion yma yn dilyn ei gilydd yn naturiol. Allan o dlodi ysbrydol, galar ac addfwynder fe ddaw llwgu a sychedu am gyfiawnder. Mae’r Cristion yn un sy’n dyheu am weld cyfiawnder.

Mae yna ddau ystyr i gyfiawnder yma.

1. Cyfiawnder mewnol ac ysbrydol yn ein calonnau ni. Mae Iesu Grist yn rhoi’r cyfiawnder yma i ni trwy ffydd, nid am ein bod ni’n byw bywydau da ac yn dilyn rheolau cyfraith Duw - h.y. Nid ni sy’n gwneud ein hunain yn gyfiawn o flaen Duw ond Duw sydd wedi trefnu ffordd i’n gwneud ni’n gyfiawn drwy ei gariad yn Iesu. (Wrth gwrs mae disgwyl i Gristnogion fyw bywydau da a glân, ond nid er mwyn ennill ‘brownie points’ gan Dduw ond fel arwydd o ddiolch iddo.) Bu farw Iesu ar y groes yn ein lle ni. Cymerodd gosb ein pechodau ni arno’i hun. Wrth inni gredu yn Iesu a dweud sori wrth Dduw am y drwg dŷn ni wedi ei wneud dŷn ni’n cael ein gwneud yn gyfiawn. Edrych ar Rhufeiniaid 3: 21-31 sydd yn esbonio hyn.

Mae’r Cristion yn dyheu am fod mewn perthynas hefo Duw ac eisiau adnabod Duw yn well a byw bywyd cyfiawn a glân. Mae Iesu yn dweud bod hyn yn bwysig iawn. Dyna ddylai fod y peth pwysica ym mywyd y Cristion - Mathew 6:33.

2. Yr ail ystyr ydy cyfiawnder yn y byd. Mae’r Cristion hefyd yn llwgu a sychedu am gyfiawnder cyffredinol yn y byd, ac yn ymladd yn erbyn pob math o anghyfiawnder. Dyna pam bod cymaint o Gristnogion yn gweithio i ddileu tlodi, newyn, trais a rhyfel ac yn sefyll o blaid pobl fregus yn ein cymdeithas fel y digartref, y rhai sy’n gaeth i gyffuriau, ymgeiswyr lloches, cleifion a’r henoed. Bydd y bobl yma, medd Iesu, yn cael eu bodloni yn llwyr.
Oes gen ti syched am gyfiawnder? (gw. Eseia 55:1,2 ac Ioan 4:14). Wyt ti’n profi’r tlodi, y galar a’r addfwynder mae Iesu Grist yn son amdano yn dy fywyd di?
Alun Tudur
Diwrnod 15Diwrnod 17

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.