Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 18 O 30

Darlleniad: Mathew 5:8

Calon lân

Y bobl hynny sydd hefo calon lân (neu galon bur) yw’r rhai sy’n ceisio dilyn Iesu ac arweiniad Duw o ddifrif. Dydy’r adnod ddim yn osodiad cyffredinol am bawb. Mae’n siŵr dy fod ti’n nabod pobl dda iawn sy ddim yn credu yn Nuw. Ond cyfeirio at bobl sy’n credu yn Iesu mae’r adnodau hyn. Pobl sy’n caru Duw ac am fyw i Iesu bob awr o bob dydd, ac am fod yn debycach iddo.

Wrth gyfeirio at y galon mae Iesu yn golygu'r person cyfan - yn cynnwys y bersonoliaeth, y corff, yr enaid, yr emosiynau, y meddwl, yr ewyllys, moesau, arian a mwy - popeth! Mae yna lot o bethau drwg yn y galon ddynol - Mathew 15:18-19. Allwn ni ddim ond cael calon bur hefo help Duw. Mae’n ein helpu i goncro’r pechod a’r pethau gwael sy’n dal ynon ni er ein bod wedi credu yn Iesu.

Mae’n galed dilyn Iesu mewn cymdeithas seciwlar, faterol, lle mae’n ffrindiau yn gwneud hwyl am ein pennau. Dŷn ni yng nghanol brwydr ysbrydol rhwng teyrnas Dduw a theyrnas y tywyllwch. (Effesiaid 6:10-20) Dydyn ni ddim yn dod yn berffaith dros nos, ar ôl dod i gredu, er bod Duw yn ein hystyried ni’n berffaith lân am ein bod wedi ein golchi trwy waed Iesu. Mae yna frwydr yng nghalon pob Cristion rhwng yr hen ffordd (diafol, cnawd a byd) a’r bywyd newydd yn Iesu (Gwaith gras a’r Ysbryd Glân) Mae Paul yn sôn am y frwydr yn Rhufeiniaid 7:7- 25. Diolch byth, mae Duw yn rhoi’r Ysbryd Glân i’n helpu yn y frwydr. Cofia pan wyt ti’n stryglo fel Cristion, fod hynny’n arwydd o’r frwydr yn dy galon ac am dy galon. Mae pob Cristion weithiau yn cael y profiad eu bod yn methu. Ond dal ati - i addoli, i weddïo, i ddarllen y Beibl ac i siarad hefo Cristnogion eraill. Y rhai sydd â chalon bur sydd yn gweld Duw.

Fedri di feddwl am enghreifftiau o’r frwydr ysbrydol ar waith naill ai yn dy galon dy hun neu yn y gymdeithas?
Alun Tudur
Diwrnod 17Diwrnod 19

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.