Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 19 O 30

Darlleniad: Mathew 5:9

Hyrwyddo heddwch

Yn y cyfnod pan oedd Iesu yn byw ar y ddaear roedd yr Iddewon wedi eu concro gan y Rhufeiniaid, a nhw oedd yn rheoli’r wlad. Pan fyddai’r Meseia’n dod, roedd yr Iddewon yn disgwyl iddo fod yn filwr llwyddiannus ac yn arweinydd gwleidyddol fyddai’n ymladd ac yn rhyddhau'r genedl o afael ei gelynion. Felly mae’n amlwg fod Iesu ddim yn ffitio’r ddelwedd yna o gwbl. D’oedd o ddim yn filwr, d’oedd o ddim yn defnyddio trais nac arfau a wnaeth o ddim codi byddin o ddynion i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. I’r gwrthwyneb yn llwyr, roedd o’n dysgu pobl i fod yn llawn amynedd a maddeuant, i garu eu gelynion ac i beidio â gweithredu yn dreisgar nac yn ymosodol.

Dyma mae Iesu’n ei ddysgu yn yr adnod hon. Mae’n dweud fod ei ddilynwyr nid yn unig i fod yn bobl heddychlon, ond hefyd yn bobl sydd yn hybu heddwch yn y gymuned a’r byd. Dangosodd Iesu hyn trwy esiampl a thrwy ei eiriau. (Edrych ar Mathew 5:21-22, 38-48, 26:52-53 a 1Pedr 2:23) Wrth gwrs mae Duw yn rhoi’r gallu i ni fod yn heddychlon am ei fod trwy Iesu yn delio hefo’r pethau hynny sy’n gwneud pobl yn dreisgar a blin. Trwy’r Iesu dŷn ni’n gwybod ein bod yn saff am byth, ein bod wedi cael maddeuant am bopeth drwg rydyn ni wedi ei wneud, a dŷn ni’n gwybod mai nid arian, chwaraeon, gyrfa, gwaith neu “image” yw’r pethau pwysicaf mewn bywyd, ond Duw a byw er mwyn yr Arglwydd. Relax! - ti’n Gristion. D’oes dim angen mynd yn intense am bethau llai pwysig. Mae Iesu’n dweud mai’r peth i’w wneud ydy rhoi’r flaenoriaeth iddo fo yn ein bywydau - Mathew 6:33. Felly os oes gen ti heddwch yn dy galon dy hun gelli wedyn hyrwyddo heddwch rhyngot ti a phobl eraill a rhwng pobl eraill a’i gilydd.

Wyt ti’n meddwl ei bod yn iawn i Gristion ddefnyddio trais?
Alun Tudur
Diwrnod 18Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.