Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 17 O 30

Darlleniad: Mathew 5:7

Dangos trugaredd

Mae’r tair adnod nesaf yn y Bregeth ar y Mynydd yn dangos sut mae Duw yn gweithio yn ein calonnau ni drwy’r Ysbryd Glân.

Mae disgwyl i Gristion ddangos trugaredd at bobl ac nid bod yn berson caled, hunanol a dideimlad. Mae’r byd heb Iesu yn aml yn ein dysgu i fod yn ddi-ymateb i angen pobl eraill ac i edrych ar ôl ni’n hunain yn unig. Ond mae Iesu’n ein dysgu i fod yn drugarog mewn gwahanol ffyrdd. Weithiau mae’n defnyddio stori i ddysgu hyn, fel y stori am y Samariad caredig yn Luc 10:33-35. Dro arall mae Iesu’n dweud yn blwmp ac yn blaen os ydyn ni’n caru Duw, y dylen ni hefyd ddangos cariad at bobl eraill - Mathew 22:36-39. Ac mae hefyd yn ein dysgu ni drwy’r ffordd roedd o’i hun yn dangos trugaredd at bobl yn ei gymuned - fel hanes y dyn oedd wedi ei barlysu yn Marc 2:1-12. Edrych ar y darlleniadau yma a gweddïa weddi fel hon, “Arglwydd ddangos dy arweiniad clir i mi drwy’r adnodau hyn, fel fy mod i’n clywed dy lais. Amen.”

Un o nodweddion Cristion yw ei fod yn debyg i Iesu ac yn dangos cariad at eraill. Dylai fod yn barod i helpu yn hytrach na cherdded heibio ac anwybyddu pobl mewn trafferthion. Nid rhyw fod yn drugarog weithiau ydy hyn (dim ond pan dŷn ni’n teimlo fel bod yn drugarog), ond ffordd o feddwl. Mae’n ymdrech fwriadol bob dydd i fod yn garedig ac yn ystyriol tuag at eraill, hefo’r teulu, ffrindiau a chymdogion. Dylai Cristion chwilio am ffyrdd i fod yn drugarog o ddydd i ddydd, un ai trwy ei eglwys, trwy fudiadau Cristnogol dyngarol neu trwy waith sy’n digwydd yn y gymuned fel bwydo’r digartref, banc bwyd a phethau tebyg. Mae yna lot o gyfleon i ddangos trugaredd Duw at eraill. Ac os ydyn ni’n drugarog, yr addewid yw y bydd Duw yn drugarog tuag aton ni. Wrth gwrs rydyn ni’n derbyn trugaredd trwy gariad a gras Duw - presant ydy o, a dydi o ddim yn dibynnu ar ein gweithredoedd. (Mathew 6:12-15; 18:35)

Tybed sut wyt ti’n dangos trugaredd yn ymarferol yn dy fywyd bob dydd?
Alun Tudur
Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.