Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 15 O 30

Darlleniad: Mathew 5:5

Bod yn addfwyn

Ystyr addfwyn ydy tyner a gostyngedig. Tydio’n air tlws - Addfwyn. Mae o’r gwrthwyneb i feddwl ein bod yn gwybod pob dim a bod yn hy’ ac yn ymosodol tuag at bobl eraill. Mae yna gysylltiad yma rhwng y ‘tlodion’ yn adnod 3 a’r ‘addfwyn’ yn yr adnod yma, oherwydd yn aml yn yr Hen Destament yr un rhai yw’r tlawd ar addfwyn. Gan fod y Cristion yn sylweddoli ei fod yn dlawd yn ysbrydol ac yn dibynnu’n llwyr ar Dduw mae o hefyd yn naturiol yn addfwyn.

Mae addfwyn hefyd yn cynnwys elfen o beidio â dal dig yn erbyn pobl eraill na bod a thuedd i ffeindio beiau ynddyn nhw. Yn lle hel meddyliau am y cam y mae’n ei gael mewn bywyd a’r problemau mae’n eu hwynebu, mae’r person addfwyn yn cyflwyno’r cwbl i Dduw.

Ar yr un pryd rhaid cofio nad ystyr addfwynder yw bod yn gadach llawr gan adael i bobl ein trin fel baw. Roedd Iesu yn addfwyn ond doedd o ddim yn cael ei sathru dan draed. Y mae person addfwyn y fodlon dioddef yn hytrach na pheri poen i eraill. Yn Mathew 11:28-30 mae Iesu yn ein gwahodd ni i fynd ato ac yn disgrifio ei hun fel person addfwyn.
Yr addfwyn, medd Iesu, fydd yn etifeddu’r ddaear. Mae’n osodiad ysgubol. Mae’r byd di-Dduw yn credu mai’r pwerus a’r cyfoethog fydd yn cymryd drosodd y ddaear. Ond dim dyna ydy cynllun Duw. Yn Salm 37:11 fe welwn yr egwyddor mai pobl yr Arglwydd fydd yn etifeddu’r byd.

Mae Iesu wedi gado y bydd yn dod yn ôl rhyw ddydd i feddiannu’r byd a phan ddaw bydd ei bobol hefyd yn etifeddu’r ddaear.
Beth amdanat ti? Wyt ti’n cael dy demtio weithiau i feddwl fod addfwynder yn wendid? Meddylia sut mae Iesu drwy’r adeg yn troi safonau’r byd a’u pennau i lawr. Beth mae hynny’n ei ddweud am dy fywyd a dy werthoedd di?
Alun Tudur
Diwrnod 14Diwrnod 16

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.