Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Genesis 2:1-3
Gorffwys nid diogi
Mae’r Beibl yn agor gyda hanes Duw yn creu'r byd a’r bydysawd. Yn y bennod gyntaf o Lyfr Genesis cawn ddarlun o Dduw yn creu golau, awyr, môr a thir, planhigion, sêr a phlanedau, pysgod, anifeiliaid, adar a phob math o greaduriaid eraill, ac yna’n olaf, pobl i ofalu am ei fyd.
Yna ar ddechrau Genesis pennod 2 mae Duw yn gorffwys, ac mae fel petai'n dweud fod gorffwys yn rhan bwysig o batrwm bywyd.
Ond wyt ti’n gwybod beth ydy’r gwahaniaeth rhwng gorffwys a diogi? Mae diogi yn dinistrio bywyd. Mae llyfr y Diarhebion yn dweud fel hyn: Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog! (Diarhebion 6:9-11)
Ond wedyn, beth am yr eithaf arall? Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae pobl yn brysur trwy’r adeg - fel petai bod yn brysur yn rhoi ystyr a phwrpas i fywyd. Weithiau mae pobl yn gallu troi’n adict i’w gwaith, ac mae’n troi yn obsesiwn sy’n dinistrio eu bywydau. Yna yr hyn sy’n gyrru eraill yn eu blaenau ydy’r awydd i wneud mwy o arian. Mae peryg i bobl feddwl fod llwyddiant a phrysurdeb yn rhoi rhyw statws iddyn nhw yng ngolwg pobl eraill.
Roedd Duw yn gorffwys, a gwnaeth un diwrnod yr wythnos yn ddiwrnod arbennig - yn ddiwrnod i ninnau orffwys. Nid diwrnod i ddiogi, ond diwrnod i orffwys. Diwrnod i’w fwynhau. Diwrnod i ddathlu. Diwrnod i addoli Duw am ei ddaioni.
Ffordd o ddianc oddi wrth bawb a phopeth ydy diogi. Cyfle i werthfawrogi bywyd ydy gorffwys.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.