Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 13 O 30

Darlleniad: Mathew 5:3 a Luc 6:20-23

Teimlo’n annigonol

Yma mae Iesu yn cyfeirio at bethau sy’ fod yn amlwg ym mywyd ei ddilynwyr, pethau sy’n dda ac yn dod a bendith gan Dduw. Gallwn ni edrych ar y rhain mewn dwy ffordd:
1. Fel gosodiadau fod Duw yn sefyll hefo’r gwan a’r bregus yn ein cymdeithas. Un felly ydy Duw a dyn ni’n gweld hyn trwy’r Beibl i gyd. Yn Salm 146:9, mae’n cael ei ddisgrifio fel Duw sy’n gofalu am fewnfudwyr a phlant amddifad a gweddwon. Mae hyn yn cael ei ddweud am Dduw yn yr Hen Destament dro ar ôl tro. Mae’n gas gan Dduw weld dioddefaint a thristwch ym mywydau pobl. Nid dyna ydy ei fwriad ar ein cyfer yn y byd.
2. Gallwn ni hefyd edrych ar y bendithion yma fel disgrifiad o’r nodweddion sydd i fod yn amlwg ym mywydau pobl Dduw, sef Cristnogion. Mae’n siŵr bod y rhai oedd yn gwrando ar Iesu, wedi eu cyffroi’n fawr oherwydd ei fod yma yn troi safonau’r byd a’u pen i lawr. Nid y cyfoethog, y llawen a’r llawn sy’n cael eu canmol, ond y tlawd, y galarwyr, y llwglyd a’r sychedig. Ystyr y gair ‘bendithio’ yma yw hapusrwydd i’r graddau uchaf posib. Gwnawn ni edrych nawr ar y bendithion bob yn un ac un.

Beth mae Iesu’n ei ddweud yn Mathew 5:3?

Bendith ar y cyfoethog medd y byd. Bendith ar y tlawd a’r annigonol medd Iesu. Nid y tlawd yn ariannol, ond rhai sy’n dlawd yn yr ysbryd - h.y. Mae’r Cristion yn sylweddoli ei fod yn anghenus, ac nad ydy o yn gallu achub ei hun. Felly mae’n gorfod dibynnu’n llwyr ac yn gyfan gwbl ar ras Duw. Fel y casglwr trethi yn y stori yn Luc 18:13 mae’n cydnabod o flaen Duw ei fod yn bechadur ac angen maddeuant. Mae Duw yn dod i deyrnasu yn dy fywyd di pan wyt ti’n cyfadde hyn - mae o eisiau i ti agor dy galon iddo.
Wyt ti’n teimlo’n dlawd ac annigonol yn ysbrydol? Sut mae hyn yn effeithio arnat?
Alun Tudur
Diwrnod 12Diwrnod 14

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.