Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 2 O 30

Darlleniad: Effesiaid 2:1-10

Mae Duw mor hael!

Sut berson oeddet ti cyn dod i nabod Iesu Grist? Falle dy fod jest eisiau joio. Falle dy fod yn berson eitha caredig. Neu oeddet ti’n berson swil, ac yn cadw o ffordd pobl eraill? S’dim ots pwy wyt ti na sut berson oeddet ti, y peth cynta mae’r darlleniad heddiw yn ei ddweud ydy fod yna bŵer ar waith oedd am dy rwystro rhag profi’r gorau sydd gan Dduw ar dy gyfer.

Dim ond ti sy’n gwybod beth oedd yn mynd trwy dy feddwl bryd hynny. Falle nad oedd dy gydwybod di yn dy boeni o gwbl. Neu ar y llaw arall, falle dy fod ti’n stryglo go iawn. Wyt ti’n cofio’r adegau yna pan oedd pethau’n mynd yn rong, a thithau ddim yn cael dy ffordd? Y gwir ydy, s’dim ots sut gymeriad ydyn ni, rydyn ni i gyd rywbryd neu’i gilydd wedi meddwl, dweud a gwneud pethau oedd yn dangos fod yna rywbeth mawr o’i le. Galwch o beth leiciwch chi, ond mae gan bob un ohonon ni syniad go dda beth mae’r Beibl yn son amdano pan mae’n defnyddio’r gair ‘pechod’.

A dyna pam mae Paul yn gallu dweud fod pawb yn yr un cwch, “yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw.”

Ond mae’r darlleniad yn dweud fod yna bŵer arall yn cynnig ei hun i ni - cariad anhygoel Duw. Y gair mae un ffrind i mi yn ei ddefnyddio i’w ddisgrifio ydy ‘pen ffrwydrol’.
Ia, y newyddion da ydy fod Duw “mor anhygoel o drugarog!” S’dim ots sut berson ydy rhywun, mae cariad Duw yn ddigon cry i ddelio gyda’i sefyllfa. Mae Duw mor hael! Mae Duw mor garedig! Y cwbl mae’n ei ddisgwyl gynnon ni ydy i ni ei gredu. All neb wneud dim byd i haeddu cariad Duw. Anrheg ydy o. Pan mae rhywun yn rhoi anrheg pen-blwydd i ti, mae gen ti ddewis - derbyn yr anrheg neu ei wrthod.

Does yna ddim anrheg arall tebyg i hwn. Mae hwn yn anrheg sy’n newid bywyd rhywun am byth. Ydy o ddim yn gwneud i ti fod eisiau dweud wrth bobl eraill amdano?
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.