Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 1Sampl

Blas ar y Beibl 1

DYDD 5 O 30

Darlleniad: 2 Corinthiaid 8:8-15

Haelioni - mae i fyny i ti

Mae’n bosib annog pobl i fod yn hael, ond allwch chi ddim gorchymyn pobl i fod yn hael. Yr eiliad mae pobl yn cael eu gorfodi i roi, mae’r rhoi hwnnw yn peidio â bod yn haelioni.
Beth mae Paul yn ei ddangos yn ein darlleniad heddiw ydy fod haelioni yn gallu bod yn heintus. Iesu Grist ydy’r un ddangosodd i ni sut beth ydy haelioni go iawn. Y gair sy’n cael ei ddefnyddio’n i ddisgrifio’r haelioni yna ydy ‘gras’. Wrth weddïo ar ddiwedd oedfa: “Gras ein Harglwydd Iesu Grist ... a fyddo gyda chwi”, beth sy’n cael ei ddweud ydy “Dw i eisiau i chi brofi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu.” Mae haelioni Iesu Grist fel fflam yn llosgi, a rhaid i ni ddewis beth i’w wneud â’r fflam - gallwn ei phasio’r ymlaen neu ddewis ei diffodd.
Cristnogion Corinth oedd y rhai cyntaf i ymateb i apêl Paul i helpu’r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem. Roedden nhw wedi dechrau’n frwd, ond mae’n ymddangos fod y brwdfrydedd yna wedi oeri. Mae’r un peth yn gallu digwydd yn ein profiad ni yn aml. Rydyn ni’n penderfynu cefnogi rhyw achos da neu’i gilydd, ond mae fflamau’r brwdfrydedd cyntaf yna yn fuan iawn yn dechrau mudlosgi.

Mae Paul yn annog Cristnogion Corinth i feddwl am y cyfrifoldeb yma fel mater o gyfiawnder a thegwch. Weithiau mae rhoi at achos da yn gallu gwneud i bobl deimlo’n hunanfodlon. Cardod (charity) ydy peth felly, ac mae yna wahaniaeth mawr rhwng cardod a haelioni. Beth mae Paul yn ei annog yn ein darlleniad heddiw ydy tegwch. Mae am i bawb fod yn gyfartal, ac mae’n dyfynnu adnod o’r Hen Destament i brofi ei bwynt - hanes pobl Israel yn derbyn y manna yn yr anialwch, a phawb yn cael yr un faint â’i gilydd. Nid annog pobl i roi rhyw bunt neu ddwy o’u newid mân sydd yma. Mae’n annog haelioni go iawn - “Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu’r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw’n gallu’ch helpu chi pan fyddwch chi angen help.”
Arfon Jones, beibl.net
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 1

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.