Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Ioan 1:43-51
Dweud wrth eraill
Un o’r pethau cyntaf wnaeth Philip ar ôl cyfarfod Iesu oedd mynd i ddweud wrth Nathanael. A dyna sut mae’r ffydd Gristnogol wedi lledu byth ers hynny - drwy i bobl sydd wedi cyfarfod Iesu ddweud wrth bobl eraill amdano a’u harwain nhw ato. Os wyt ti wedi cyfarfod Iesu Grist bydd gen ti awydd i ddweud amdano wrth bobl eraill. Ond y broblem yn aml ydy fod gynnon ni ofn embarasio’n hunain neu gael gwrthwynebiad.
Gwrthwynebiad gafodd Philip - doedd Nathanael ddim yn credu y gallai unrhyw beth da ddod o Nasareth. Jerwsalem falle (wedi’r cwbl Jerwsalem oedd dinas Duw, ac yno roedd Teml Dduw), ond byth Nasareth! Roedd Philip wedi mentro tystio am Iesu i Nathanael, a’r ymateb gafodd o oedd “Paid â siarad lol!” Ond wnaeth hynny beri i Philip roi’i fyny? Na. Beth wnaeth o? Mae’n dweud wrth Nathanael - “Tyrd i weld drosot ti dy hun.”
A beth sy’n digwydd wedyn? Mae Nathanael yn sylweddoli’n ddigon sydyn mai nid dyn cyffredin oedd Iesu. Roedd Nathanael wedi dod wyneb yn wyneb â’r un oedd yn ei nabod o. Meddylia mor sydyn y trodd ei wrthwynebiad yn gyffes mai Iesu oedd y Meseia.
Dylai hyn fod yn anogaeth i bob un ohonon ni. Ddylen ni ddim bod ag ofn gwrthwynebiad. A chofia, dydy’r canlyniadau ddim yn dibynnu arnon ni. Allwn ni ddim troi neb at Grist, rhaid iddyn nhw weld drostyn nhw eu hunain. Ond mae’n parodrwydd ni i ddweud “Tyrd i weld” yn hanfodol bwysig. Dyna sut mae Duw wedi dewis gweithio. Mae wedi’n galw ni i gyd i fod yn dystion i Iesu.
A gyda llaw, mae’n bwysig dweud un peth arall: Does dim rhaid i ni wneud hyn i gyd yn ein nerth ein hunain. Dyma ddwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion cyn mynd yn ôl i’r nefoedd: “Bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb.” (Actau 1:8)
Beth amdanat ti? Wyt ti’n barod i fentro?
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.