Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Exodus 16:1-31
Trystio Duw
Mae’r darlleniad heddiw yn adrodd hanes y ffordd wyrthiol wnaeth Duw fwydo pobl Israel pan oedden nhw yn yr anialwch ar ôl dianc o wlad yr Aifft lle roedden nhw wedi bod yn gaethweision.
Mae yna bedair gwers bwysig i ni yn yr hanes:
Yn gyntaf, mae’n galw arnon ni i drystio Duw, y bydd o’n rhoi i ni bopeth sydd arnon ni ei angen. Roedd pobl Israel yn meddwl eu bod nhw yn mynd i lwgu i farwolaeth yn yr anialwch. Roedden nhw’n panicio ac wedi anobeithio. Ond doedd y sefyllfa ddim yn anobeithiol hefo Duw.
Yn ail, mae’r hanes yn ein hannog i fod yn fodlon hefo’r hyn sydd ei angen arnon ni. Fel mae Gweddi’r Arglwydd yn dweud: “Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw.” Mae’r geiriau yma yn her fawr i ni sy’n byw yng ngwledydd cyfoethog y byd.
Yn drydydd, mae’n ein rhybuddio rhag meddwl ei bod yn iawn i ni gasglu mwy a mwy o bethau i ni’n hunain. Mae’r hanes yn dysgu fod pawb yn gydradd yng ngolwg Duw. Ond yn anffodus, mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo yn tybio ei bod yn iawn i rai gael gormod tra mae eraill yn mynd yn brin. Wyt ti’n gwybod y gwahaniaeth rhwng beth rwyt ti eisiau a beth rwyt ti ei angen?
Yna’n olaf, mae’r hanes yma’n dysgu fod diwrnod o orffwys yn rhan bwysig o batrwm bywyd yng ngolwg Duw - diwrnod i gydnabod popeth mae Duw yn ei roi i ni, dathlu ei ddaioni a diolch iddo. Fel mae Salm 23 yn dweud, “Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.”
Ceisia gofio’r pedair gwers yma heddiw. Mae Duw eisiau i ni ddysgu ei drystio fo.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.