Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: 2 Corinthiaid 8:1-7
Haelioni
Ddeuddydd yn ôl roedden ni’n son am y ffaith fod Duw yn Dduw hael. Yn ein darlleniad heddiw mae Paul yn son am Gristnogion yn Macedonia (gogledd gwlad Groeg yn ein dyddiau ni) ac yn dweud eu bod nhw wedi bod yn “anhygoel o hael” (adn.2).
Y cefndir oedd fod Cristnogion Jerwsalem yn dioddef tlodi ofnadwy, ac roedd Paul wedi mynd ati i annog Cristnogion yr eglwysi roedd mewn cysylltiad â nhw i helpu eu brodyr a’u chwiorydd tlawd drwy rannu gyda nhw. Dyna mae’n ei wneud yn y llythyr yma at Gristnogion Corinth.
Beth sy’n rhyfeddol am yr eglwysi yn Macedonia ydy eu bod nhw wedi bod mor hael mewn cyfnod pan roedden nhw eu hunain wedi bod trwy amser caled. Nid pobl gyfoethog hefo digon wrth gefn oedd y rhain. Doedden nhw ddim yn gallu cymryd rhyw ychydig o gynilion a chario ymlaen i fyw yn gyfforddus - na, roedden nhw wedi rhoi mwy na allen nhw’n ei fforddio, dim ond er mwyn gallu helpu eraill.
Ond mae yna wers bwysig arall i sylwi arni yn adn.5 (a falle mai dyma oedd eu cyfrinach.): Roedden nhw’n rhoi llawer mwy na’u harian - roedden nhw’n rhoi eu hunain yn y lle cyntaf i’r Arglwydd. Mae gwneud peth felly yn plesio Duw. Yn ei lythyr at y Rhufeiniaid mae Paul yn dweud: Am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw ... Dyna beth ydy addoliad go iawn! (Rhufeiniaid 12:1). Mae’n dweud fod gwneud peth felly yn plesio Duw, ac mai dyna beth ddylen ni i gyd ei wneud.
Rydyn ni’n byw mewn byd ac mewn cyfnod lle mae canran uchel o’n cyd-Gristnogion yn dioddef tlodi. Mae Duw wedi bod mor hael aton ni. Ydw i’n fodlon gwneud rhywbeth heddiw fydd yn adlewyrchu’r haelioni yna? Tybed pwy alla i eu helpu?
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.