Blas ar y Beibl 1Sampl
Darlleniad: Philipiaid 2:5-11
Beth ydy dy agwedd di at fywyd?
Ddoe roedden ni’n son am anrheg anhygoel Duw. Un peth oedd y darlleniad yn ei ddweud oedd, “does dim lle i unrhyw un frolio.”
Mae brolio yn golygu dweud “edrych arna i”, “edrych beth dw i wedi ei wneud”. Ac weithiau mae bywyd pobl fel petai’n un gystadleuaeth fawr i weld pwy ydy’r gorau. Mae rhai pobl fel petaen nhw yn llwyddo (Er, fel y gwelwn ni wrth ddarllen hanes llawer o ‘sêr’ y byd seciwlar, dydy eu bywydau nhw ddim yn fêl i gyd.) Mae pobl eraill fel petaen nhw’n bodloni ar fethu. Eraill eto yn penderfynu gwneud y gorau o fywyd fel y mae.
Mae’r darlleniad heddiw yn dweud beth oedd agwedd Iesu Grist at fywyd pan oedd o’n fyw ar y ddaear yma. Mae’n dweud wrthon ni y dylai’n hagwedd ni at fywyd fod yr un fath â Iesu.
Roedd gan yr un sy’n cael ei alw ‘y Mab’ bopeth - Duw oedd o yn ôl y Testament Newydd. Yn ôl Ioan pennod 1, Duw oedd y ‘Gair’ tragwyddol (h.y. yr un oedd wedi bodoli bob amser), a daeth y ‘Gair’ tragwyddol yna yn berson o gig a gwaed - y Meseia Iesu.
Dewisodd roi ei hun i wasanaethu pobl eraill - ‘gwagio ei hun’ ydy’r ffordd mae’r emyn yma yn y darlleniad yn disgrifio’r peth. Gwneud ei hun yn gaethwas. Roedd yr un oedd yn ‘Frenin brenhinoedd’ yn fodlon golchi traed ei ddisgyblion. Rhoi ei hun dros eraill wnaeth Iesu ... a hyd yn oed dioddef a marw ar groes Rufeinig greulon. (Mae yna broffwydoliaeth ryfeddol yn Eseia 53 sydd fel petai’n disgrifio dioddefaint Iesu i’r dim - darllen Eseia 53:1-8.)
Y pwynt mae Paul yn ceisio’i wneud wrth adrodd yr emyn yma ydy y dylai’n hagwedd ni fod yr un fath ag agwedd Iesu - peidio troi bywyd yn gystadleuaeth. Peidio bod am y gorau i fod yn bwysig ac yn llawn ohonon ni’n hunain. Peidio meddwl ein bod ni’n well na phobl eraill. A chofia mai nid ffordd o ddod i berthynas â’r Meseia ydy gwneud hyn, ond ffordd o fod mewn perthynas â’r Meseia.
Arfon Jones, beibl.net

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.