Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl
Hyfrydwch Maddeuant
Mae maddeuant Beiblaidd yn delio’n uniongyrchol ag anafiadau personol, waeth pa mor ddwfn ydyn nhw na pha mor bell ydyn nhw yn ein gorffennol. Wrth edrych nôl ar feiau o’r gorffennol mae’n bwysig i labelu’r pechodau hynny’n gywir. O wneud hynny dŷn ni’n cyffesu’r broblem go iawn. Yn y Beibl mae’r term “cyffesu” yn golygu “cytuno” ar fater. Pan fyddwn yn cyffesu pechod yn iawn, dŷn ni’n cytuno â Duw ar natur go iawn y broblem rheng ni ac eraill.
Rhoddodd Jacob gyngor doeth i’w feibion; dwedodd wrthyn nhw’n union beth i’w ddweud: “Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.” Yn y foment o gyffesu dŷn ni’n dueddol o ddibrisio ein pechodau neu bechodau eraill. Roedd ymddygiad brodyr Joseff yn wirioneddol ddrwg tuag ato. Roedd Joseff yn gwybod yn well na neb pa mor ddwfn oedd eu drygioni. Dyna'r baich yr oedd ei frodyr yn ei gario dros y blynyddoedd hynny, a'r baich oedd yn eu gwneud yn ofnus o Joseff - ac yn gwbl briodol! Roedden nhw’n euog o ddrygioni yn erbyn y dyn oedd nawr yn farnwr arnyn nhw. Eto, pam wnaethon nhw gyfaddef eu bai, wnaeth Joseff dalu nôl gyda mwy o ddrwg? Na, wylodd Joseff! Gwelodd fod bwriad Duw ar waith drwy ymddygiad drwg ei frodyr. Fel hyn roedd yn gallu cysuro ei frodyr ac adfer y berthynas gyda’n nhw.
Mae 1 Ioan, pennod 1, Adnod 9 yn dweud, “Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg...” Edrycha ar hyfrydwch maddeuant! Mae maddeuant yn gallu cyrraedd yn ôl i bechodau dwfn o flynyddoedd yn ôl, gan hyd yn oed ryddhau pobl o feichiau maen nhe wedi’u cario ers eu plentyndod.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.
More